
01 Rhagfyr 2011
Adolygiad Gwyn Griffiths o Pleserau'r Plismon gan John Alwyn Griffiths. Gwasg Carreg Gwalch. £7.50
Cael ein dal gan straeon difyr
Dyn sy'n hoffi pobol - da neu ddrwg - â'i gydymdeimlad â phechaduriaid a saint fel ei gilydd. Argraff fel yna ges i o John Alwyn Griffiths o ddarllen ei gyfrol Pleserau'r Plismon. Dyn braf i fod yn ei gwmni, dybiwn i, yn sicr o fewn tudalennau llyfr.
Gwladwr o blismon, pysgotwr a heliwr, a thebyg y dylai plismon da fod yn un sy'n perthyn i'w gymdeithas ac yn adnabod ei bobol.
Dyma gyfrol ddarllenadwy a hwyliog. Cyfrol llawn straeon da am gymeriadau lliwgar o aml haenau cymdeithas a'r dweud yn raenus a difyr.
Nid stori am un plismon chwaith ond hanesion plismyn yn perthyn i oes a aeth heibio, lawer ohonyn nhw, dynion oedd yn cadw'r heddwch yn eu dull unigryw eu hunain.

Mae yma ddegau o storiâu ardderchog yn cael eu hadrodd yn dwt a bachog. Fel y plismon gafodd gerydd am ymladd yn y stryd fawr ar ei ddiwrnod bant.
"Mi alwodd fi yn fastad, syr," atebodd Gwyn.
"Evans," gwaeddodd Gonc, "'does dim rhaid i mi fynd allan o'r plis stesion yma i gael fy ngalw'n fastad, ond tydi hynny ddim yn rheswm i ddechrau cwffio efo pawb."
Medrwn yn hawdd lenwi'r adolygiad yma'n ailadrodd rhai o emau'r gyfrol. Mae'n amhosib peidio ag ildio i'r demtasiwn i gynnwys ambell un, fel honno am yr awdur a chydweithiwr o CID Llangefni yn mynd i restio bachgen ifanc.
Roedd y ddau blismon mewn siwtiau tywyll, parchus, fel byddai dynion CID 'slawer dydd.
Wedi cnocio sawl gwaith daeth mam y bachgen i'r drws.
"CID o Langefni ydan ni, wedi dod i arestio'ch mab ..." meddai'r awdur.
"Diolch i'r nefoedd am hynny," medda'r fam. "Roeddwn i'n meddwl mai Jehovah's Witnesses oeddach chi!"
Mae yna glasur o stori am un o'i gydweithwyr yn mynd i dŷ cyngor yng nghyffiniau Rhos-goch, Sir Fôn, i chwilio am ddafad. Roedd y plismon wedi cael sicrwydd fod y bachgen oedd yn byw yno gyda'i dad a'i fam, wedi dwyn dafad.
Er gwaetha bytheirio'r tad aed i chwilio'r tÅ· a chael hyd i'r ddafad o'r diwedd yn yr atic - a 'doedd y tad na'r fam yn gwybod dim ei bod yno.
Mae hanes John Alwyn Griffiths yn cychwyn fel ³¦²¹»åé³Ù ym Mangor ac yn gorffen ac yntau'n Bennaeth Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru.
Er gwaetha cyfnodau ar drywydd "pobol ddrwg" mewn mannau mwy poblog - wel, Caergybi, beth bynnag - mae'n amlwg mai dyn y wlad yw'r awdur. Ond dyn pobol hefyd. Cafodd yrfa ddisglair a difyr tu hwnt.
Dyma gyfrol un a gafodd flas ar yrfa, ac ar fywyd. Diolch iddo am rannu'r llawenydd a'r blas hwnnw gyda ni. Atgofion pum seren - neu bum streipen, os oes y fath beth yn bod.
Gwyn Griffiths