ÃÛÑ¿´«Ã½

Russell Jones - gwyrdd ei fyd

20 Gorffennaf 2010

    Adolygiad Glyn Evans o Gwyrdd fy Myd gan Russell Jones - gyda Mared Lewis. Cyfres Nabod. Gwasg Gwynedd. £6.95.

Gellir gwrando ar Russell Jones yn siarad am ei lyfr efo Gwilym Owen, Gorffennaf 19 2010 ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru, trwy glicio ar y blwch llwyd isod.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Daeth Gwasg Gwynedd i amlygrwydd gyda Chyfres y Cewri gan gornelu am bwcs y farchnad hunangofiannau - nes i bob cyhoeddwr arall sylweddoli gwerth y ffynnon hon i ddisychedu'r werin ddarllengar Gymraeg a chreu llif cyson o atgofion gan bawb boed gawr neu gorrach.

Pegwn 'poblogaidd' - a defnyddio'r gair yn ei ystyr gyfoes - yr un farchnad ydi'r gyfres newydd Nabod gyda'i phwyslais ar lawer o luniau ac ychydig o eiriau mewn penodau pytiog.

Tra'r oedd Cyfres y Cewri yn rhoi cyfle ichi dreulio penwythnos hir yng nghwmni arwr rhyw gyfarfyddiad tros ginio neu mewn bore coffi ydi Nabod os yw'r gyfrol gyntaf yn arwydd o'r hyn sydd i ddod.

A dydi hi ddim gwaeth oherwydd hynny, dim ond gwahanol.

Dewis da

Ac o ddewis gwrthrych i gychwyn y gyfres go brin y gellid, ar yr union adeg hon, fod wedi dewis gwell na Russell Jones "cymeriad lliwgar a charismataidd . . . rhaglen Yn yr Ardd ar S4C" fel mae'n cael ei ddisgrifio gan y cyhoeddwyr.

Does dim dwywaith nad yw'r seren hon yn un o rai disgleiriaf y sianel y dyddiau hyn.

Mae pob rheswm i feddwl y bydd Gwyrdd fy Myd yn gwerthu'n dda.

Cyfrol denau o 60 ddalennau lliw yw hi gyda pheth wmbredd o luniau o'r gwrthrych a'i gyfeillion o'i blentyndod i'r sgrin gyda phytiau amdano nad ydynt o ran cyfanswm geiriau fawr fwy nag erthygl go lew mewn cylchgrawn papur Sul.

Mae yma gyfuniad o'r 'Dyn ei Hun' yn dweud ei stori a sylwadau gan rai sy'n ei adnabod; ei fam, athrawes ysgol gynradd, ei chwaer, ei frawd, ei wraig, dwy anti ac yn y blaen.

Ymadrodd a ddefnyddir fwy nag unwaith amdano yw "Russ 'di Russ" a'r dystiolaeth amlwg yw ei fod yn gymeriad hynod o hoffus ond gwahanol i'r rhelyw a hynny'n ei wneud, wrth gwrs, yn gymêr ac yn gyflwynydd y mae rhywun eisiau darllen amdano ef a'i ddiddordebau fel y cadw ieir, y gwau a'r garddio.

Bocs sebon

Eitem ysbeidiol yn y llyfr yw'r un "Ar fy mocs sebon" lle mae'n dweud ei ddweud am bethau mor amrywiol ag addysg (plant yn dysgu am bethau sydd a dim i'w wneud a'u cynefin), llnau (mae na'r ffasiwn beth â bod yn rhy lân), ceir (dydi o ddim yn, nac eisiau, gyrru), crefydd( nid yw'n credu yn nefoedd y Beibl).

Pytiau byrion, hawdd eu treulio yw'r rhain yn gydnaws â natur y gyfrol drwyddi draw sy'n ddifyr ac yn hawdd i'w darllen. Cyfrol sy'n gorffen gyda'r nodyn gobeithiol:

"Ro'n i'n arfar teimlo, mod i'n cerddad yn fy mlaen ond fod na fynydd uchel o 'mlaen i o hyd, a'i fod yn symud efo fi fel ro'n i'n cerddad, a byth yn mynd o'r ffordd. "Erbyn hyn dwi'n teimlo mod i wedi dringo i dop yr hen fynydd 'na, ac yn medru sbïo drosodd i'r ochr arall. A wyddoch chi be? Mae'r olygfa'r ochr arall yn fendigedig! Gwyrdd fy myd, 'de!"

Ynde.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

ÃÛÑ¿´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ÃÛÑ¿´«Ã½

ÃÛÑ¿´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.