ÃÛÑ¿´«Ã½

T Llew Jones yn cofio Ennill ei gadair gyntaf

T Llew Jones

T Llew yn sgwrsio gyda Dei Tomos yn ystod haf 2008

Bu T Llew Jones yn sôn sut y bu iddo bron a chael ei daflu allan o'i lety blwyddyn ei Gadeirio yn Eisteddfod Glynebwy - am iddo gymryd llymaid o ddiod feddwol!

Yn cael ei holi gan Dei Tomos ar gyfer ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru dywedodd ei fod ef ag Alun Cilie yn aros yn yr un tÅ·.

Arogl diod ar eu gwynt!

Ond pan ddychwelodd y ddau i'r ty ar ôl bod allan am lymaid chafodd y ddau ohonynt fawr o groeso gan wraig y tŷ, ac yn arbennig gŵr oherwydd bod arogl diod ar eu gwynt!

Ond a hithau'n gyda'r nos cymerwyd trugaredd arnynt a chaniatáu iddynt aros tan y bore o leiaf.

Y diwrnod canlynol oedd dydd y cadeirio a phwy oedd yn y gynulleidfa ond y gŵr a'r wraig.

O ganlyniad cafodd T Llew ac Alun Cilie dipyn gwell croeso ar eu haelwyd y noson honno.

Yn wir dywedodd T Llew, wedi'r sgwrs, i ŵr y tŷ ddweud wrtho, "You are a better man than I am" gan ychwanegu y byddai'n goddef iddo gael llymaid y noson honno i ddathlu!

'Hen job'

Yn ystod y sgwrs datgelodd y prifardd a enillodd y gadair eto'r flwyddyn wedyn yng Nghaernarfon nad oedd yn hoff o sgrifennu awdlau gan ddisgrifio'r orchwyl fel "hen job".

Ychwanegodd mai cyfansoddi cerddi plant a roddai'r pleser mwyaf iddo gan ddweud ei fod "yn teimlo yn fy nghalon" pan yn sgwennu i blant ond nid bob amser pan yn sgrifennu pethau eraill!

"Pan dwi'n sgwennu i blant dwi o ddifrif," meddai.

Soniodd hefyd am ei englyn i'r Ceiliog Gwynt - englyn, meddai, "y bu beirniadu mawr a dweud pethau cas amdano".


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

ÃÛÑ¿´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ÃÛÑ¿´«Ã½

ÃÛÑ¿´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.