
14 Mawrth 2011
Sioned Williams yn pwyso a mesur perfformiad o 'Deffro'r Gwanwyn' yng Nghaerfyrddin ar Raglen Dewi Llwyd, ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru, bore Sul, Mawrth 13, 2011.
Er mai sioe gerdd yw cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer gwanwyn 2011 rhybuddiodd adolygydd ar Radio Cymru bobl i beidio a disgwyl Mama Mia.
Sioned Williams oesdd yn adolygu'r cynhyrchiad ar gyfer Rhaglen dewi llwyd, bore Sul Mawrth 13.
Gwelodd y sioe yng Nghaerfyrddin lle'r oedd y dorf ar ei thraed ar y diwedd yn cymeradwyo, meddai.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
"Felly dwi'n siŵr y bydd yn plesio," meddai.
Ond ychwanegodd ei bod hi hefyd yn sioe "go heriol" gan rybuddio; "Peidiwch a disgwyl Mama Mia, mae yna ddigon o swmp iddi hi."
Eglurodd mai cyfieithiad yw Deffro'r Gwanwyn o Spring Awakening a gafodd gryn dipyn o ganmoliaeth a chlod gan gynnwys gwobr Olivier i ddau Gymro am eu rhannau ynddi y llynedd.
"Mae wedi ei seilio ar ddrama o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan y dramodydd Almaenig Frank Wedekind ac yr oedd yn ddrama a gafodd ei gwahardd achos yr oedd hi'n sgandal ar y pryd gan ei bod yn trafod deffroad rhywiol pobl ifanc; cariad hoyw, erthyliad, camdriniaeth rywiol ac yn y blaen.
"Mewn un ffordd, y mae hi felly yn waith hanesyddol yn perthyn i gyfnod a gwlad benodol ond mewn gwirionedd rhagrith a gormes cymdeithasol yw testun y darn.
"Rydym ni'n dilyn y criw yma o fechgyn a merched ifanc yn y gymdeithas lem, Biwritanaidd, yma ac yn gweld canlyniadau trasig mygu eu rhyddid a'u hysbryd nhw yn enw parchusrwydd - ac mae hynny, wrth gwrs, yn thema oesol," meddai Sioned Williams.
Ac o'r herwydd yn trawsblannu i unrhyw gyfnod neu leoliad.
Dywedodd fod y gerddoriaeth yn elfen "efallai yn fwy trawiadol na'r arfer" yn y sioe hon.
"Mae'r ddeialog yn iaith ffurfiol y cyfnod. Sgyrsiau eithaf hen-ffasiwn a rhwystredig braidd a wedyn y gerddoriaeth yn ffrwydro. Y gerddoriaeth ydi iaith isymwybod a theimladau y bobl ifanc yma ac mae'r gerddoriaeth ag arddull roc cyfoes, aflafar," meddai.
Dywedodd mai "go adnabyddus" yw'r caneuon ond nad oedd hi ei hun yn gyfarwydd iawn a hwy.
"Ond mae'r CD ac yn y blaen wedi gwerthu'n dda iawn ac mae wedi bod ar Broadway ac wedi bod ar daith drwy Ewrop wedyn falle y bydd yna nifer go lew yn gyfarwydd â nhw," meddai.
O ran y cynhyrchiad awgrymodd bod y cyfanwaith yn fwy trawiadol na'r perfformiadau unigol.
"Yr oedd y cyfan yn llwyddo i greu perfformiad cerddorol yn sicr o safon y West End ac yr oedd perfformiad lleisiol Aled Pedrig, sy'n chwarae y brif ran, yn raenus iawn; ond roeddwn i'n teimlo efallai nad oedd y perfformiad unigol yn sefyll mas.
"Un eithriad oedd un o berfformiadau mwyaf ymylol y cynhyrchiad oedd yn fwy cynnil ac effeithiol . . . gan Lynwen Haf Roberts. Roeddwn i'n meddwl bod ei pherfformiad hi yn arbennig iawn," meddai.
Cyfeiriodd hefyd at berfformiadau Ffion Dafis a Dyfed Edwards sy'n portreadu holl oedolion y sioe - mam, tad. athro ac offeiriad.
"Ac yr oedden nhw'n gwneud hynny mewn ffordd eithaf ystrydebol a choeg . . . yn awgrymu bod yr holl oedolion yn y ddrama yma cyn waethed â'i gilydd."
Canmolodd hefyd gyfieithiad Dafydd James (Llwyth) gan ofidio nad oedd amodau hawlfraint yn caniatáu iddo osod y trosiad yn y Gymru gyfoes fel y dymunai.
O ran diffygion beiodd y caneuon am fod yn rhy debyg o ran eu naws a'r sioe, mor llawn o angst ac emosiwn o'r cychwyn cyntaf, o fod yn yr un cywair.
"Mae yna olygfeydd hynod, hynod, o ddramatig. Uchel bwyntiau mawr.[Ond ] doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i wedi cael fy llusgo i mewn. Doedd yr emosiwn ddim yno i mi.
"Ond wedi dweud hynny roedd yn rymus iawn ar lefel gwaith ensemble ac yn berfformiad corfforol iawn, y defnydd o'r llwyfan yn arbennig, ac mae bron fel dawns ar adegau ac mae ambell gân yn aros yn y cof ond yn anffodus mae'r un oeddwn i'n hoffi orau a theitl rhy anweddus i'w ailadrodd," meddai