ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Caerdydd
Kirsty JOnes (yn y canol) gyda'i ffrindiau Caerdydd Cartrefol
Mae Kirsty Jones o Hwlffordd sydd wedi dysgu Cymraeg, yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn ysgrifennu am y profiad o fyw yn y brifddinas. Kirsty Jones yw'r un yn y canol yn y llun.

Gallwch chi fynd yno i dreulio eich blynyddoedd fel myfyriwr, gallwch chi fynd i chwilio am gyffro yn y sîn nos neu gallwch chi fynd i ffeindio'r ffrog neilltuol yna sydd newydd gyrraedd ar yrhigh street.

Ond beth bynnag y rheswm, y mae ein prifddinas ni yn denu cymaint o bobl ifanc dros y wlad i gyd a thu hwnt oherwydd yr atyniadau amrywiol sydd ganddi. Mae cymaint o bethau newydd a chyffrous yn digwydd yng nghanol bywyd prysur y ddinas gyda phopeth y gallwch chi feddwl amdano ar gael; yn y canolfannau siopa mawr a bywyd nos blaenllaw'r wlad sydd yn llawn bwrlwm ac egni pob nos yr wythnos.

Gallwch chi brofi'r holl bethau ffantastig hyn wrth fynd i Gaerdydd... Ond ni all neb gerdded i lawr y strydoedd y ddinas heb weld rhyw berson arall o'n sir fach ni! Weithiau, mae'n teimlo fel nid ydych wedi gadael Sir Benfro o gwbl gan fod cymaint o bobl a gafwyd eu magu yn ein hardal ni wedi symud i Gaerdydd er mwyn astudio yn y Brifysgol neu chwilio am waith.

Caerdydd cyffrous
Nid peth rhyfedd ydy hwn gan ystyried, i oedolyn ifanc, mai Caerdydd yw un o'r lleoedd mwyaf cyffrous i fyw ym Mhrydain. Ond fel rhywun sydd wedi profi bywyd myfyriwr yng Nghaerdydd am dair blynedd, efallai mai safbwynt tueddol sydd gen i!

O safbwynt siopa, mae cymaint o ddewis yn Queen St, gan gynnwys yr holl ffefrynnau fel Top Shop, Miss Selfridge, H&M, Next, Zara, River Island, Warehouse, Oasis a llawer mwy, yn ogystal ag enghreifftiau o'r siopau enfawr newydd New Look a Primark sef cadwyn o siopau sydd wedi ffrwydro mewn poblogrwydd oherwydd eu polisïau am gynnig y ffasiwn diweddaraf am brisiau rhad iawn. Mae nifer o ganolfannau siopa yn y stryd hefyd gan gynnwys y ganolfan Capital, Canolfan Dewi Sant ac Arcêd y Frenhines.

Un o'r pethau cyntaf a sylwais wrth symud i Gaerdydd oedd y sinemâu sydd ar gael yma. Mae yna rywbeth hiraethus i mi am y sinema fach 'Playhouse' yn Ninbych y Pysgod ac y 'Palace' sinema yn Hwlffordd ac yn y blaen ond mae'r nifer o sgriniau o dan un to yn y rhai yng Nghaerdydd yn rhyfeddol! Hefyd mae yna nifer helaeth o dafarnau a chlybiau nos dros y lle ac mae rhyw noson arbennig wedi'i threfnu ar gyfer myfyrwyr y Ddinas bron bob nos yr wythnos!

Nid oes angen mynd i'r dref bob amser fodd bynnag oherwydd mae gan Brifysgol Caerdydd un o'r undebau myfyrwyr gorau ym Mhrydain! Gyda nifer o lefelau a chlwb nos ei hun o'r enw Solus a neuadd fawr ar gyfer gigs.

Y bae
Canolfan y MileniwmOnd os ydych yn chwilio am rywbeth mwy soffistigedig, gallwch chi brofi beth bynnag sydd ar gael ym Mae Caerdydd. Mae'r rhan hwn o Gaerdydd wedi'i ddatblygu llawer yn ddiweddar gyda'i phrosiectau cymharol newydd fel Canolfan y Mileniwm yn denu llawer o ddiddordeb o ran y cynyrchiadau gwahanol ar y llwyfan. Mae dewis helaeth o fwytai arbennig ar gael yn yr ardal hon hefyd a gallwch chi gael blas o amryw ddiwylliannau gwahanol.

Un o'm hoff ddinasoedd ym Mhrydain ydy Caerdydd. Mae yna bob amser rhywbeth newydd i'w wneud, ond mae yna bob amser rhyw wyneb cyfeillgar o gwmpas hefyd!

Kirsty Jones

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.

  • Mwy o Gaerdydd

  • Gwefan Hwlffordd

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Cynulliad Cenedlawthol Cymru
    Tywydd
    Lluniau
    Elusennau


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý