ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Caerdydd
Siop recordiau Spillers, y siop recordiau hyna yn y byd. Fy Nghaerdydd i
Erthygl "Fy Nghaerdydd i", gan Louise Andrewartha, a raddiodd o Brifysgol Caerdydd yn haf 2005.
I fi, mae Caerdydd yn rywle ffantastig i fyw. Mae bywyd y myfyriwr yng Nghaerdydd yn arbennig o gyffrous; yn ôl yr hen ystrydeb, mae'n fywyd sy'n llawn cymdeithasu ac mae Caerdydd yn lle perffaith am hynny.

I ddechrau, mae'r undeb yn ganolbwynt bywyd cymdeithasol y myfyriwr. Yn yr undeb dych chi'n gallu gweld bandiau, mynd i'r clwb nos, ymuno â chymdeithasau, cael gêm o squash neu dennis, mynychu dosbarth funky arse disco dancing neu fynd am beint yn y dafarn ar ôl gwneud arholiad yn y Neuadd Fawr.

Astudio
Llyfrgell y BrifysgolO ran astudio, mae Caerdydd yn le perffaith i ddysgu â chyfleusterau o bob math. Mae llyfrgell y brifysgol yn ffynhonell enfawr o wybodaeth am bob pwnc a dw i'n hoff iawn o ddarllen y tu allan i fy mhynciau pan fod digon o amser gyda fi.

Yn y darlithoedd a seminarau, cefnogir ni i drafod pethau a mynegi ein barn ein hunain. Hefyd, mae'r darlithwyr yn rhoi pwyslais ar ddarllen yn eang ac ar wneud ymdrech i weld dramâu a ffilmiau sy'n berthnasol i'r cwrs.

Y Celfyddydau
Ac wrth gwrs, mae Caerdydd yn llawn cyfleoedd i wneud hynny. Yn y Canolfan Chapter Arts, gwelais fersiwn Gymraeg o The Vagina Monologues o'r enw Shinani'n Siarad ac addasiad ffilm o nofel Caradog Prichard Un Nos Ola Leuad.

Hefyd, mae cymdeithas ddrama'r brifysgol, Act one, yn llwyfannu dramâu o bob math yn y Sherman, The Gate a'r YMCA. Mae'r dramâu hyn yn enwog am fod yn broffesiynol ac mae'r tocynnau'n rhad iawn, felly dw i'n ceisio mynd i weld bob un sy'n cael ei llwyfannu.

Yn ychwanegol at ddramâu, mae nifer o sinemâu yn y ddinas lle dych chi'n gallu gweld cynhyrchiadau diweddaraf Hollywood, filmiau iaith dramor, ffilmiau byrion ac yn y blaen.

Bywyd Nos
CwrwAr ôl noson o gelfyddyd, dw i'n mwynhau mynd allan i fariau a chlybiau nos y ddinas am ychydig o beintiau a sgwrs gyda ffrindiau. Dw i'n hoffi'r ffaith bod Caerdydd yn ddigon bach i weld eich ffrindiau heb drefnu cyfarfod, ond mae'n ddigon mawr i ddarganfod pethau newydd i'w gwneud drwy'r amser.

Pan fy mod i'n gadael ardal yr undeb, dw i'n hoffi mynd i glwbiau fel Clwb Ifor Bach, Moloko a Metro's. Ond, os dw i'n teimlo fel dawnsio i gerddoriaeth pop yr wythdegau, mae Reflex yn le perffaith i fynd. Os bydd gwell da fi gael diod tawel gyda fy ffrindiau, mae'r Rummer Tavarn a'r Pen & Wig yn darparu lle i ffwrdd o'r clwbiau brysur ar St Mary's Street.

Siopa
Yn ystod y dydd, mae'r stryd hon a Heol y Frenhines yn brysur, ond gyda siopwyr y tro hwn. Dw i wrth fy modd yn siopa yn y ddinas achos ei bod yn darparu popeth o fewn ardal eitha bach. Dw i'n hoff iawn o siopau dillad mawr fel H&M, Zara, Topshop a Miss Selfridge ond mae'n bosib treulio diwrnod cyfan yn crwydro'r arcêdau am ryw fargen bach.

Hefyd, mae amrywiaeth o gaffis a bwytai yn yr arcêdau sy'n lleodd perffaith am sbotio pobl enwog! Y tu allan i ganolfan y ddinas, mae strydoedd fel Albany Road yn llawn siopau elusen lle dych chi gallu ffeindio bargen neu rywbeth i wisgo i barti gwisg ffansi!

Mae fy Nghaerdydd i yn le prysur a chyffrous lle mae rhywbeth yn digwydd trwy'r amser ac mae bob dydd yn llawn bwrlwm. Ond hefyd, mae'n lle i ymlacio gyda fy ffrindiau a mwynhau awyrgylch hudol y ddinas.

Gan: Louise Andrewartha. Ysgrifennodd Louise yr erthygl hon pan oedd hi yn y flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd. Graddiodd yn haf 2005.

Ydych chi'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, neu a ydych chi'n dod i'r brifddinas yn fyfyriwr wythnos y glas am y tro cyntaf eleni? Cysylltwch â ni gyda'ch profiadau chi trwy lenwi'r ffurflen isod, neu e-bostiwch eich stori aton ni.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Cynulliad Cenedlawthol Cymru
Tywydd
Lluniau
Elusennau


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý