ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Caerdydd
Undeb y Myfyrwyr yng Nghaerdydd, llun gan Luke Pavey. Bywyd yr Undeb
Yn fy marn i, mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ganolbwynt bywyd y myfyriwr. Dych chi'n gallu gwneud bron bopeth yno, o edrych am swydd i ddawnsio yn y clwb nos neu weld bandiau.

Y Neuadd Fawr
Cynhelir hyd at 30 cyngherdd a gŵyl gwrw yn y Neuadd Fawr bob blwyddyn ond, ar yr ochr negyddol, mae'r Neuadd yn un o'r ystafelloedd arholi hefyd!

Ar ddechrau'r tymor, ym mis Medi, cynhelir ffair gymdeithasau a'r ffair gwmniau yn y Neuadd Fawr ac mae'r rhain yn ddigwyddiadau prysur iawn.

Es i'r ffair gymdeithasau am y tro cyntaf llynedd ac ymunais â dwy o'r 144 o gymdeithasau, sef The Funky Arse Disco Dancing Society a'r gymdeithas ddrama Act One.

Nid wyf yn ffan fawr o'r ffair gwmniau yn gyffredinol ond mae'n darparu cyfle da i gael pethau am ddim oddi wrth y cwmnïau mawr.

Yn ogystal â'r ffeiriau hyn, cynhelir gwerthiannau posteri, planhigion, dillad, cryno ddisgiau a gemau yng nghlwb nos yr undeb, sef Solus.

Bywyd Nos
Y mae lle i 1600 o bobl yn Solus ac mae'n cynnal gigs ac yn darparu gwahanol mathau o gerddoriaeth bob nos. Fy hoff noson yn Solus ydy nos Lun oherwydd does dim rhaid i chi brynu tocyn ac mae'r gerddoriaeth yn ffantastig. Fel arfer, bydd DJ yn chwarae roc neu drum & bass yno a band byw yn perfformio mewn ystafell fach drws nesaf.

Os dych chi'n chwilio am rywbeth i'w wneud nos Fawrth, cynhelir clwb comedi yn Seren Las, sef math o gaffi/bar yn yr undeb. Dw i'n hoff iawn o glwb comedi achos eich bod yn gallu gweld comediwyr eithaf enwog am tua £5 ac mae poteli o win yn £6 yn unig (ac mae hynny yn gwneud i bopeth yn fwy doniol hefyd!)

Ddydd Mercher, cynhelir noson o'r enw 'Rubber Duck' sy'n tynnu torf o'r rhai sy'n mwynhau chwaraeon a phobl sy'n hoff o gerddoriaeth pop a R&B. Dydy'r noson hon ddim yn apelio ataf a dw i'n ceisio'i hosgoi os mae'n bosib. Mae'r diodydd yn rhad ond mae'r lle yn llawn bechgyn mawr wedi meddwi sy'n edrych am ferched.

Mae 'Lashtastic' ar nos Wener a 'Come Play' Nos Sadwrn yn brysur iawn, tipyn bach fel 'Rubber Duck'. Eto, dw i ddim yn ffan mawr o'r nosweithiau hyn ond os dych chi'n hoffi cerddoriaeth pop a diodydd rhad, mae'n berffaith i chi.

Y Taf
Nos Sul, mae cwis yn y Taf, sef tafarn yr undeb sydd fel arfer ar agor tan un ond yn cau yn gynharach ar nos Sul. Y mae'r cwis yn eitha soffistigedig gyda defnydd o sgrins mawr i ddangos lluniau o bobl enwog a golygfeydd o ffilmiau ac ati. Fel arfer, mae'r gwobrau yn dda, yn cynnwys arian a chwrw.

Yr unig beth nad wyf yn ei hoffi am y Taf yw'r ffaith nad oes llawer o seddau yno ac mae'n edrych tipyn bach yn rhy trendi i fi - mae'n well 'da fi dafarnau mwy traddodiadol a chysyrus lle dych chi'n gallu ymlacio.

Cyfleusterau Eraill
Mae cyfleusterau eraill sydd yn yr undeb yn cynnwys: siop yr undeb, y siop swyddi, Threshers, Blockbuster, bar brechdannau O'Brien's, lolfa deledu, Canolfan Cyngor, siop lyfrau, ystafelloedd cyfarfod a stiwdios y bapur newydd Y Gair Rhydd a safle radio Xpress FM.

Gan: Louise Andrewartha.

Ydych chi yn fyfyriwr yng Nghaerdydd? Llenwch y ffurflen isod gyda'ch straeon chi, neu anfonwch luniau aton ni at cymru@bbc.co.uk


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

A ydych chi'n cytuno? Dwedwch wrthon ni eich barn chi am yr Undeb yma.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Cynulliad Cenedlawthol Cymru
Tywydd
Lluniau
Elusennau


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý