ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Butetown a Bae Caerdydd
Y dociau sych Dociau Sych
Wrth i chi ddod yn ôl at ymyl y dŵr, fe welwch y dociau sych a Techniquest.
Dyma'r hanesydd lleol Neil Sinclair i'n tywys drwy'r hyn arferai ddigwydd yn y dociau sych.

"Buasai'r ardal gyfan wedi bod yn llawn llongau. Byddai'n rhaid iddynt ddewis eu hamser i ddocio yn ofalus iawn. Buasai llongau oedd angen eu hatgyweirio ond yn gallu hwylio i'r doc pan oedd y llanw i mewn oherwydd pan oedd y llanw ar drai dim ond fflatiau llaid oedd i'w canfod.

"Unwaith fuasai'r llongau i mewn, buasai gatiau'r loc yn cau ac unwaith fyddai'r llanw ar drai buasai'r tŷ pwmpio yn dechrau draenio'r dŵr o'r doc. Gallwch weld yr adeilad bric coch ger agoriad y doc.

"Pe bai gan y llong broblemau gyda'r injan buasai'n cael ei godi gan graen a'i symud i'r sied atgyweirio.

"Mae adeilad y Techniquest, sy'n gartref i amgueddfa wyddonol ryngweithiol, yn edrych fel adeilad modern ond mae wedi ei adeiladu ar sylfeini a waliau'r sied atgyweirio fawr oedd yno pan oedd y dociau mewn defnydd.

"Ni allai'r awdurdodau ddinistrio'r sied oherwydd bod cragen y gweithfeydd atgyweirio yn adeilad rhestredig. Felly fe benderfynwyd adeiladu ar frig yr adeiledd gwreiddiol a dyna pam y mae ar ffurf mor unigryw."

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf o 1914 i 1918 defnyddid y dociau'n helaeth ar gyfer cynnal a chadw llynges Prydain.

O'r fan hon, ewch am y chwith a throi i'r dde yn syth cyn dod at yr hen dÅ· pwmpio.

  • Yn ôl i gychwyn y daith


  • Caerdydd
    Cynulliad Cenedlawthol Cymru


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý