ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
abertawe

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Abertawe
Criw o fyfyrwyr y Gym Gym, Abertawe yn y Rhyng-Gol ym Mangor Yn y Rhyng-Gol
Fe aeth criw bach o Gym-Gym, sef criw o fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol Abertawe i Fangor ar ddechrau Mawrth 2007, ar gyfer yr Eisteddfod Ryng-gol flynyddol.

Roedd pawb yn edrych ymlaen at ddeuddydd o hwyl a sbri gyda phrifysgolion eraill Cymru.

Fe anelon ni am y Gogledd brynhawn Gwener a chyrraedd saith awr yn ddiweddarach yn barod i herio ein gwrthwynebwyr drennydd. Doedd dim Eisteddfod Dafarn eleni, felly roedd nos Wener yn gyfle i ni flasu bywyd nos Bangor yn hamddenol cyn y diwrnod mawr. Fe ymatalodd y rhan fwyaf rhag yr alcohol gan y byddai mwy na digon o gwrw ar gael ym mar Academi ddydd Sadwrn.

Fe aethon ni yno eleni yn disgwyl cystadlu yn un neu ddwy gystadleuaeth, gan gynnwys y côr cymysg, ond doedden ni ddim yn disgwyl taflu ein hunain i grombil pob cystadleuaeth dan haul! Gydag oddeutu pymtheg ohonom ar y daith (gan gynnwys ein cefnogwyr), roedd amrywiaeth o dalentau o fewn ein criw - cantorion, dawnswyr a rhai oedd yn fodlon trio unrhyw beth! Roedd un o'n criw ni wedi plesio gyda'i ddawns James Bond-aidd, ac eraill wedi dangos eu doniau yn y cystadlaethau cerddorol.

Fe benderfynon ni ar fyr rybudd y byddem yn cystadlu yn y Côr Bechgyn, a doedd neb yn disgwyl y llwyddiant a gawsom. Roedd y gân - Y Cwm gan Huw Chiswell - yn hen gyfarwydd i bawb ac fe ganon ni nerth ein pennau. Roedd rhai yn ei chael hi'n anodd dal y dagrau yn ôl yn emosiwn y foment wrth i'r dorf gyd ganu i'n cefnogi ni. Dyma fy uchafbwynt personol i! Roedd clywed ein bod ni'n fuddugol yn brofiad gwefreiddiol. Roedd llwyddiant yn y Côr Cymysg (cydradd gyntaf) yn eisin ar y gacen!

Fe gawson ni dipyn o lwyddiant yn y cystadlaethau gwaith cartref hefyd, gyda Rhian Jones yn drydydd yng nghystadleuaeth y Gadair, a thair allan o bedair gwobr yng nghystadleuaeth y dysgwyr yn dod i Abertawe. Dyma ddangos bod stiwdants Abertawe yn amryddawn!

Y criwRoedd dod yn drydydd ar ddiwedd yr Eisteddfod yn dipyn o gamp i ni, yn enwedig wrth i ni guro Aberystwyth! Afraid dweud bod ambell un braidd yn siomedig wrth i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi, ond roedd eraill wrth eu bodd ac yn canu 'Tawe, Tawe, Abertawe!' mewn buddugoliaeth.

Fe aethon ni i glwb Amser yn y dref ar gyfer y gig ar ddiwedd y dydd, ac roedd hi'n gyfle i ni ddathlu ein llwyddiant dros ambell ddiodyn. Roedd lein-yp gwych ar ein cyfer ni unwaith eto - y gorau o bosib ers i mi fod yn stiwdant - ac roedd rhywbeth at bob chwaeth.

Fe ddechreuodd y noson gyda set gan 'Rafter' a gamodd i mewn ar y funud olaf. Roedd y band ifanc hwn yn ddechrau da i'r noson. Yna, fe gawson ni Vanta gyda'u caneuon roc ysgafn gan gynnwys 'Tri Mis a Diwrnod' oedd yn boblogaidd gan bawb. Daniel Lloyd a Mr. Pinc oedd y band nesaf ar y llwyfan ar ôl cyfnod tawel iddyn nhw fel band. Fe lifodd y band o un clasur i'r llall, gan gynnwys 'Goleuadau Llundain', 'Tro Ar Ôl Tro' ac 'Eldon Terrace'. Braf gweld y band hwn ar y sîn unwaith eto.

PennillUchafbwynt y noson, yn enwedig i ni fel Gym-Gym, oedd Frizbee. Dyma benllanw penwythnos gwych yn hanes Gym-Gym Abertawe - penwythnos bythgofiadwy i'r criw a fentrodd i'r Gogledd ac a ddaeth yn ôl i Abertawe yn llawn balchder!!

Alun Rhys Chivers

  • Criw Bangor yn coroni'r cyfan a lluniau o'r penwythnos

  • Cyfle i gyfrannu

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Bws ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
    Lluniau
    Digwyddiadau


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý