![]() |
![]() |
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
![]() ![]() |
![]() Y glaw’n tynnu torf Er bod hi’n tywallt y glaw ddoe ’roedd maes yr Eisteddfod yn fwrlwm, a Phabell Dinistr yn lloches i nifer o ymwelwyr. Mewn ffordd mae’r glaw o gymorth i’r Babell Roc, gan fod pobl yn ysu am gysgod; felly cafwyd cynulleidfa sylweddol drwy’r prynhawn. Mae Epitaff yn gwella’n gyson ar hyn o bryd, a ’roedd perfformiad hogia Llanrug yn wefreiddiol. ’Roedd bwrlwm, egni a boddhad Ynyr y prif leisydd yn amlwg i bawb, a mae pob argoel y bydd y caneuon ar yr EP newydd yn gofiadwy dros ben. Edrychwn ymlaen i glywed EP newydd Epitaff ym mis Medi felly. CD arall sydd ar y gweill ydi EP gyntaf Alcatraz, ac ’roedd eu perfformiad hwythau hefyd yn wych. Does ryfedd fod cerddoriaeth Alcatraz mor boblogaidd ar hyn o bryd wrth gwrs, gan fod grwpiau fel Papa Roach a Limp Bizkit yn cael cymaint o sylw yn Lloegr. Angen presenoldeb Er hynny mae angen mwy o bresenoldeb llwyfan wrth y prif-leisydd Kate Timothy. Braidd yn llonydd mae hi ar hyn o bryd. ![]() ’Roedd Cwmwl 9 a Dysgu Nofio yn effeithiol dros ben yn y Babell Roc ddoe, ac er ei bod hi wedi cael ei chwarae hyd at syrffed mae Mary Jane yn parhau i swnio’n dda yn fyw. Mi fydd Caban yn siwr o ddenu cynulleidfa sylweddol heddiw, tra bydd Estella yn ein diddanu ym Maes B gyda’r nos. Welwn ni chi yno ...
| |
![]() © MMI |
![]()
|
![]() |
About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |