ÃÛÑ¿´«Ã½


Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
» Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau

Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y gynghanedd yn help i fardd y Goron ddod o hyd i'r geiriau iawn

Y bardd ar y llwyfanAelod o grwp a fu’n canu cyfieithiad Cymraeg o gân waharddedig Chuck Berry - My Dingaling - a gipiodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych yr wythnos hon.

Yr oedd Penri Roberts yn aelod o grwp Y Gasgen a fu’n canu Fy Mheth Bach i yn y saithdegau ond yr oedd dipyn mwy o sylwedd i’r cerddi a enillodd iddo Goron y Genedlaethol yn Ninbych ddydd Mawrth.

Dilyniant o gerddi oeddan nhw yn adrodd stori plentyn yn dygymod â phriodas anghytun ei rieni ac yn codi muriau i ddianc y tu ôl iddyn nhw.


"Mae’r cerddi yn sôn am ganlyniadau methu â chyfathrebu," meddai.

Dywedodd Penri Roberts i’r sbardun i sgrifennu ddod o’i brofiad yn athro.

Enw merch yn ffugenw

Yr oedd gweld dyn yn codi ar ei draed yn y Pafiliwn yn dipyn o syndod wedi i’r archdderwydd alw’r ffugenw Mair ond dywedodd Mr Roberts iddo ddewis enw ei fam yng nghyfraith yn ffugenw oherwydd ei feddwl mawr ohoni.

"Y mae’n ddynes arbennig iawn," meddai.

Dywedodd i’r wythnosau ers iddo gael gwybod iddo ennill fod yn rhai anodd - a hyd yn oed wedi cyrraedd y llwyfan bu’r disgwyl yn hir cyn iddo gael y Goron ar ei ben gyda’r Archdderwydd yn bwrw ymlaen a’r seremoni fel pe byddai wedi anghofio fod angen gosod y goron ar ben y bardd i’w goroni!

Awdur sioeau cerdd
Y mae Penri Roberts yn fwy adnabyddus fel awdur sioeau cerdd nag fel bardd gyda’i gysylltiad â Chwmni Ieuenctid Maldwyn sy’n dathlu ei ugain oed eleni yn mynd yn ôl i gychwyn y cwmni hwnnw.

Manteisiodd ar y sylw a gafodd fel bardd coronog i dynnu sylw at aduniad hen aelodau’r cwmni yng Nglantwymyn ar Fedi 7.

Pum mlynedd yn ôl dechreuodd ddysgu’r cynganeddion ac er nad am gerddi yn y mesurau caeth yr enillodd ei Goron dywedodd i gynganeddu fod o gymorth iddo fel bardd.

"Y mae medru cynganeddu yn miniogi dewis rhywun o eiriau ac yn gwneud rhywun yn fwy gofalus wrth ddewis a dethol a defnyddio geiriau," meddai.






Straeon Eisteddfod 2001:
ÃÛÑ¿´«Ã½
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am  y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am  y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy