![]() |
![]() |
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
![]() ![]() |
![]() Cyfarfod Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Catrin Jones o ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd yn holi Eifion Lloyd Jones
Nid yn unig mae Eifion Lloyd Jones wedi bod yn cystadlu ei hun ond bu ei wraig, Leah, yn wyneb cyfarwydd iawn ar lwyfan yr eisteddfod ac y mae eu plant yn awr yn gystadleuwyr steddfodol hynod lwyddiannus. Yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor a’r Cylch yn 1971 enillodd Leah ddeg gwobr gyntaf mewn cystadlaethau canu. Bu Angharad ac Elysteg, eu dwy ferch, yn cystadlu’n gyson ar lwyfan eisteddfod yr Urdd a daeth Rhys, eu mab ieuengaf, yn gyntaf yng nghystadleuaeth yr unawd cerdd dant 12 oed yng Ngwyl yr Urdd eleni. Ac er nad yw Ynyr, eu mab hynaf, yn un sy’n hoff o gystadlu ar lwyfan y mae’n gerddorol ac wrth ei fodd yn cyfansoddi. Siaradwr cyhoeddus o fri Ychydig iawn o gystadlu traddodiadol a wnaeth Eifion Lloyd Jones ei hun pan yn iau ond yr oedd yn areithiwr o fri mewn cystadlaethau siarad cyhoeddus cyhoeddus. Dechreuodd y siarad cyhoeddus pan oedd yn yr ysgol ac ar ran aelwyd Porthmadog. Daeth yn ail mewn cystadleuaeth siarad cyhoeddus yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaergybi yn 1966. Pan oedd yn y chweched dosbarth ef oedd siaradwr unigol gorau ysgolion Cymru. Ar ei flwyddyn gyntaf yn y brifysgol yn Aberystwyth bu’n fuddugol yng nghystadleuaeth siaradwr unigol colegau Cymru. Dyma’r ymryson areithio a drefnwyd gan y ÃÛÑ¿´«Ã½. Llais yr ifanc dros Steddfod deithiol Bu’r ddawn hon o fudd arbennig iddo yn y byd go iawn ddiwedd y saithdegau pan ddaeth y ddadl ynglyn â sefydlogi yr Eisteddfod Genedlaethol yn bwnc llosg. Bu Eifion yn flaenllaw iawn yn y frwydr i ddiogelu’r eisteddfod fel gwyl symudol. Yr oedd hwn yn gyfnod dadleugar yn hanes yr wyl ac y mae araith drawiadol a wnaeth Eifion mewn cyfarfod tyngedfennol o Lys yr Eisteddfod yn Aberystwyth yn dal i gael ei chofio fel un a fu o help i droi’r fantol yn erbyn cynnig a oedd gerbron i gael safle parhaol i'r Steddfod. Dadlau ar ran pobol ifanc Cymru a wnaeth o gydag apêl daer am i’r Eisteddfod barhau i deithio Cymru. A’r un yw ei farn heddiw, meddai. Ac o gysur iddo mae’r gred nad yw’r syniad o safle ganolog yn gymaint o fygythiad heddiw, meddai, am fod cymaint o ardaloedd yn dymuno cynnal y ‘steddfod. Dod ag arian i'r fro Dywedodd fod adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan yr eisteddfod adeg Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn dangos fod yr wyl yn dod ag incwm o £6m i fro’r eisteddfod ar ei hymweliad. "Mae’r wyl y dod â’i nodweddion a’i Chymreictod i ardaloedd, nid yn unig yn ystod yr wythnos fawr, ond yn ystod y blynyddoedd cyn yr wyl. "Ond mae’n dod â chymaint yn economaidd ag yn diwylliannol," meddai. Dywed hefyd na fyddai cymaint o frwdfrydedd dros gynnal gwyl mor fawr ar safle parhaol ac mai "rhan o’r apêl yw crwydro Cymru". Nid oes neb balchach nag ef, felly, mai yn yr ardal lle mae o wedi ymgartrefu a chodi teulu y mae’r Eisteddfod eleni. Cwmwl o ansicrwydd Ond fe fu cwmwl o ansicrwydd mawr a fyddai’r eisteddfod yn cael ei chynnal o gwbwl eleni yn sgil yr argyfwng traed a genau. "Roedd yna ansicrwydd mawr a fydden ni’n cynnal ac a ddylen ni gynnal y Steddfod," meddai. "Mi gawsom ni drafodaethau mawr â ffermwr lleol a’i filfeddyg, undebau amaethyddol a swyddogion y Weinyddiaeth Amaeth, y cynghorau sir a’r Cynulliad." Ac er i’r pwyllgor gwaith dderbyn anogaeth o bob cyfeiriad amaethyddol dywed iddyn barhau yn ymwybodol iawn o’r peryglon posib. "Fe fyddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau na fydd anhawster yn codi." Dyma pam y bydd pob cerbyd sy’n dod i’r maes yn cael ei ddiheintio. Mae’r Eisteddfod hefyd wedi cysylltu â chystadleuwyr, y rhai fydd â stondinau ar y maes a’r rhai hynny sy’n bwriadu aros yn y maes carafanau i ddweud wrthyn nhw y bydd yn rhaid iddyn nhw ddiheintio’u ceir. Yn ogystal mae’n rhaid i’w cerbydau fod yn lân ac ni fydd mynediad i dir yr eisteddfod i gerbydau gyda mwd o leoedd eraill. "Fe fydd costau’r wyl yn llawer uwch na’r disgwyl ond mae’n rhaid sicrhau diogelwch amaethyddol," meddai. Mae’r argyfwng wedi golygu tipyn mwy o waith i staff yr eisteddfod hefyd gan eu bod yn delio’n ddyddiol â galwadau yn holi a yw’r eisteddfod yn dal i gael ei chynnal. Codi arian yn lleol Hyn oll fel pe na byddai cynnal eisteddfod yn dasg enfawr a chostus beth bynnag i drigolion yr ardaloedd sy’n cynnal yr wyl. Bu cymunedau Sir Ddinbych wrthi’n hynod o ddyfal yn codi y £234,000 a oedd yn nod y gronfa leol ac fe sicrhawyd yr arian bedwar mis cyn dyddiad yr eisteddfod gyda rhai ardaloedd fel y Groes a Bylchau wedi codi dwywaith mwy na’u nod. Mae Eifion yn gweld hyn o brawf o allu ardaloedd I gynnal gwyl deithiol. "Mae’r eisteddfod eleni’n brawf o hynny. Mae dros chwarter miliwn wedi ei gasglu gan gymunedau lleol Dinbych ac ar ben hyn mae nawdd yr awdurdodau lleol," meddai. Maes Steddfod yn Faes Protest Problem steddfodol flynyddol yw protestio ar faes y maes - gan Gymdeithas yr Iaith yn fwyaf arbennig. Dywedodd Eifion nad yw’n gwrthwynebu protestiadau o'r fath mewn egwyddor ac y dylai pob corff neu fudiad gael yr hawl i fynegi eu safbwyntiau. Ond ar y llaw arall mae’n credu "na ddylai hynny achosi difrod i gyrff sy’n dod ar y maes ac na ddylai eu heiddo gael ei ddifrodi." "Mae yna 52 wythnos mewn blwyddyn ac mae’n annheg fod rhai mudiadau yn canolbwyntio’u hymgyrchu ar yr wythnos arbennig hon. Dwi yn amddiffyn hawl unrhyw fudiad i ddatgan protest ond dwi yn anghytuno ac ambell ddull," meddai.
| |
![]() © MMI |
![]()
|
![]() |
About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |