![]() |
![]() |
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
![]() ![]() |
![]() Cyfle newydd i lenorion newydd Mae yna ysgoloriaeth newydd yn cael ei chyflwyno yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, Ysgoloriaeth Emyr Feddyg. Ysgoloriaeth i lenorion yw hon sy’n cael ei rhoi i lenor neu fardd nad yw eisoes wedi cyhoeddi cyfrol. Bydd yn rhaid i’r cystadleuwyr lunio darn neu ddarnau rhyddiaith tua 3,000 o eiriau ar un o’r ffurfiau canlynol: braslun nofel, pennod agoriadol nofel, tair stori fer neu dair ysgrif. Mae’n rhaid i’r gwaith fod yn waith gwreiddiol. Mae’r ysgoloriaeth yn rhoi cyfle i lenorion neu feirdd newydd i dderbyn hyfforddiant er mwyn gwella eu crefft. Yn ogystal â gwobr o £1,000 fe drefnir i’r enillydd i gael prentisiaeth wyneb yn wyneb gyda llenor profiadol. Bydd yn derbyn tua chwe mis o hyfforddiant ac fe fydd hwn yn cynnwys sesiynau trafod. Fe fydd yr enillydd hefyd yn derbyn sylwadau manwl ar y tasgau a roddir iddo/iddi. Y tro hwn mae gofyn i’r cystadleuwyr ysgrifennu darnau rhyddiaith. Dywed Hywel Wyn Roberts, trefnydd yr eisteddfod yn y gogledd: "Roeddem ni’n ofnus braidd na fyddai yna lawer o bobol yn gwybod am yr ysgoloriaeth newydd. Mae wastad yn anodd cyflwyno cystadleuaeth newydd gan na allwn fod yn siwr a yw pobol yn darllen y testunau’n fanwl." "Yn aml dydi pobol ddim yn dod i wybod am y gystadleuaeth tan y flwyddyn ganlynol ond mae yna naw llenor wedi anfon eu cynnyrch eleni." Mae yna newid yn y gystadleuaeth i benseiri yn yr adran gelf a chrefft. Cyn eleni dim ond myfyriwr mewn coleg pensaernïol yng Nghymru a gai anfon ei waith i’r gystadleuaeth. Ond fe gaiff myfyriwr o unrhyw le anfon ei waith eleni cyn belled â’i fod yn Gymro neu o deulu Cymraeg. Dywed Hywel Wyn Roberts "Mae nifer dda wedi anfon eu gwaith i mewn i’r gystadleuaeth hon lle mae cyfle i ennill ysgoloriaeth gwerth £1,500". Pwy oedd Emwyr Wyn Feddyg? Fe roddir y wobr er cof am Dr Emyr Wyn Jones a fu’n Gymrawd i’r Eisteddfod. Awdur ar bynciau hanesyddol oedd Emyr Feddyg. Cafodd ei eni’n Waunfawr ger Caernarfon. Bu’n feddyg y galon yn Lerpwl nes iddo ymddeol yn 1972. Mae wedi cyhoeddi llyfrau hanes ac ysgrifau. Bu beirdd a chantorion yn ymweld yn gyson a’i gartref ef a’i wraig yn Llansannan, Dyffryn Clwyd.
| |
![]() © MMI |
![]()
|
![]() |
About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |