ÃÛÑ¿´«Ã½


Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
» Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau

Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Helyntion trefnydd:
Dygymod â chlwy a phost yn mynd ar goll


Hywel Wyn Edwards yw trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y gogledd.

Trefnwr sy'n hoff o drefnu

Hywel Wyn EdwardsBu’n drefnydd eisteddfodau’r gogledd er 1993 pan adawodd ei swydd yn athro yn Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug, i weithio gyda’r brifwyf.

Ar hyn o bryd mae’n byw y tu allan i’r Wyddgrug ond fe fu’n byw yn Ninbych am chwe blynedd yn ystod y saithdegau felly mae’n hen gyfarwydd a bro’r Eisteddfod.

Cyn ei swydd bresennol bu’n trefnu eisteddfod yr Urdd yn Sir y Fflint a Dwyrain Clwyd am dros 20 mlynedd.

Ef oedd ysgrifennydd pwyllgor gwaith eisteddfod yr Urdd yn yr Wyddgrug yn 1984 ac yr oedd yn ysgrifennydd pwyllgor gwaith yr eisteddfod genedlaethol pan ymwelodd a’r Wyddgrug yn 1991.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1992 a Llanelwedd 1993 yr oedd yn un o’r cyfarwyddwyr llwyfan.

Hefyd, bu’n rhedeg rhagbrofion Eisteddfod yr Urdd yn genedlaethol am ddeng mlynedd yn ogystal â threfnu’r eisteddfod yn sirol.

"Dwi’n licio trefnu. Dwi’r math yna o berson. Mae’r swydd yn un ddiddorol does ‘na ddim byd arall tebyg iddi yng Nghymru. Mae’n swydd unigryw."

Tan Orffennaf 20 yr oedd swyddfa’r Eisteddfod yng nghanol tref Dinbych ond ers hynny bu ar y maes ei hun.

Yr wythnos gyda'r lleiaf o stres

Swyddfa'r EisteddfodWedi’r holl waith caled fe fydd Hywel Wyn Edwards yn cael y cyfle i fwynhau ffrwyth ei lafur ddechrau Awst.

"Pan yw’r wythnos yn llwyddiannus mae’n deimlad braf iawn. Mewn gwirionedd, wythnos yr eisteddfod ei hun yw’r adeg a’r lleiaf o stres ac mae’n gyfle i ymlacio," meddai.

Mae’n egluro mai profiad go ryfedd yw gweld yr wyl yn dirwyn i ben ddiwedd wythnos.

"Nos Sul fe fydda i’n teimlo’n ofnadwy o fewn hanner awr wedi i’r gymanfa orffen fe fydd popeth o fewn y pafiliwn wedi mynd.

"Wedyn fydda i’n dechrau meddwl oedd o werth yr holl ymdrech. Wedyn mae’n amser cychwyn eto."

Nid yw Hywel Edwards yn symud ty ond yn teithio bob dydd i’r swyddfa lle bynnag mae honno - dros y ddwy flynedd nesaf, Meifod ym Maldwyn fydd ei faes llafur gyda’r swyddfa yn y Trallwng! Yng Nghaernarfon fydd eisteddfod y gogledd wedi honno.

Mae aelodau eraill o’r staff yn fwy tueddol o rentu lle am gyfnod o ddwy flynedd a symud gyda’r Steddfod bob tro.

Bygythiad y clwy

Heb os y cur pen mwyaf eleni fu’r clwy traed a genau - ac y mae’n dal i fod.

"Mae hyn wedi rhoi llawer o bwysau ychwanegol, roedd yna amheuaeth i ddechrau a fyddai yna eisteddfod o gwbwl."

"Doedden ni ddim yn gwybod a fyddai’r corau a’r partïon am gystadlu am nad oedden nhw’n gallu ymarfer yn ystod yr argyfwng.

"Hefyd roedden ni’n poeni a fyddai stondinwyr am ddod i’r maes ac a fyddai carafanwyr yn dod yma eleni."

Ond erbyn hyn mae dyddiad cau’r cystadlaethau wedi bod a’r ymateb wedi bod yn dda iawn, meddai.

Erbyn dechrau Gorffennaf yr oedd 350 o garafanau wedi sicrhau lle ar y maes.

Casglu arian

Ac er gwaethaf cwmwl y clwy llwyddodd yr ardaloedd lleol I nid yn unig gyrraedd nôd y gronfa leol ond i gasglu mwy na’r disgwyl.

"Roedden ni wedi cyrraedd y targed fwy neu lai ddechrau Ebrill pan oedd y clwy yn ei anterth. Wedi hynny roedd nifer o bethau’n cael eu gohirio."

Deunydd ar goll

Trafferth fwy annisgwyl oedd un deunydd cystadleuaeth gerdd.

Am nad oedd y beirniad gartref pan alwodd y postmon gadawyd nodyn iddo gasglu’r parsel o fewn amser penodol.

Ond fe anghofiodd ac anfonwyd y gwaith i Belffast lle’r anfonir popeth nad yw’n cael ei gasglu ym Mhrydain.

Creodd hyn dipyn o banig gan fod y dyddiad cau ar gyfer y beirniadaethau ar Fai 15.

Uchafbwynt

Ond beth yw uchafbwynt gwyl gyda chymaint o binaclau I’r dyn sy’n ei threfnu?

"Dwi’n hoffi gweld dawnsio a chlywed canu," meddai.

"O ran cyngherddau fe fydda i wastad yn mynd i gyngerdd Côr yr Eisteddfod. Maen nhw wedi bod yn ymarfer am flwyddyn a hanner yn wythnosol a dwi’n gwerthfawrogi hynny’n fawr," ychwanegodd.

Côr enfawr

Ac mae’n amlwg fod yr eisteddfod ar ymweliad ag ardal gerddgar iawn eleni.

Ar gyfer yr ymarfer cyntaf ar gyfer y côr daeth 500 o gantorion brwdfrydig ynghyd.

Ond dim ond lle i 345 sydd ar y llwyfan felly roedd hi’n anodd iawn penderfynu beth i’w wneud â nifer mor fawr.

"Erbyn hyn rydym ni lawr i 350 gan fod rhai wedi’i gweld yn anodd parhau. Doedd y côr ddim yn gallu ymarfer adeg y clwy ac felly erbyn hyn maen nhw’n ymarfer ddwy waith yr wythnos.

"Mae nifer yn aelodau o gorau eraill felly mae pawb yn gweithio’n galed iawn."

Straeon Eisteddfod 2001:
ÃÛÑ¿´«Ã½
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am  y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am  y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy