ÃÛÑ¿´«Ã½


Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
» Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau

Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


DramaY ddrama fer
yn fyr o weledigaeth newydd



Adolygiad Catrin Jones

Brynhawn Mawrth perfformiwyd y ddrama fuddugol yn y gystadleuaeth cyfansoddi drama fer yn Theatr y Maes.

Enillydd y gystadleuaeth oedd Dylan Wyn Williams a pherfformiwyd ei ddrama fuddugol, Gwir Baradwys,s gan rai o ddisgyblion Ysgol y Creuddyn, Llandudno.

Bachgen ysgol yn marw

Drama oedd hi am fachgen ysgol yn marw wedi iddo gymryd ecstasi mewn clwb nos ar ôl gorffen ei arholiadau Lefel A.

Roedd strwythur cadarn i’r ddrama. Dechreuwyd gyda golygfa o fedd y bachgen a’i chwaer yn cyfarch y bedd.

Aethpwyd â ni at y bedd droeon yn ystod y ddrama a hynny yn ein hatgoffa o fyrdwn y ddrama a’r drasiedi.

Aed a ni yn ôl hefyd i’r gorffennol a chyfarfod cymeriadau eraill y ddrama.

Gwelsom y prif gymeriadau yn yr ysgol cyn eu harholiad Lefel A. Yr oedd golygfa mewn tafarn yn y dre ac un mewn clwb nos.

Awyrgylch tafarn a chlwb

Crewyd awyrgylch tafarn a chlwb nos yn dda ond teimlwn fod y gerddoriaeth yn boddi’r llefaru yn yr olygfa clwb.

Crewyd undod dramatig trwy orffen gyda’r bedd unwaith eto.

Gweithiodd y syniad o ddechrau yn y diwedd gydag ôl-fflachiadau wedyn o’r hyn a ddigwyddodd. Hefyd, roeddwn yn hoffi’r ffordd y portreadwyd y bedd gyda’r golau i gyd wedi’i daflu ar un man ar flaen y llwyfan, a blodau ar y llawr.

Yn ogystal, roedd y diweddglo’n effeithiol. Roeddwn yn hoff iawn o’r dull a ddefnyddiwyd i egluro beth oedd wedi digwydd i gymeriadau’r ddrama wedi’r drasiedi.
Bu’r dramodydd yn llwyddiannus hefyd wrth greu cymeriadu credadwy ac amrywiol. Roedd y ddeialog yn naturiol gyda tipyn o hiwmor.

Perfformiad yn plesio

Plesiodd perfformiad disgyblion Ysgol y Creuddyn gyda’u llefaru’n glir. Yr oedd eu defnydd o’r llwyfan yn ddoeth.
Credaf fod defnydd o gerddoriaeth yn y ddrama’n hynod effeithiol. Dechreuodd gyda cân leddf Catatonia, Difrycheulyd, wrth inni weld golygfa’r bedd.

Roedd y gân yn dychwelyd bob tro yr aethpwyd a ni at y bedd. Rhwng y golygfeydd eraill defnyddiwyd caneuon bywiog gan y Super Furry Animals a Maharishi ac yn sicr roedd hyn yn cyfrannu tipyn at y perfformiad gan greu awyrgylch a rhoi awgrym i ni o’r hyn oedd yn mynd i ddigwydd nesaf.

Diffyg gwreiddioldeb

Ond er cymaint y rhinweddau ni theimlwn fod yn y ddrama fawr ddim gwreiddioldeb.

Mae cyffuriau yn thema a welir dro ar ôl tro mewn llenyddiaeth a drama ac er mwyn cyflwyno thema gyfarwydd fel hyn credaf fod angen cyflwyno rhyw agwedd newydd ar y pwnc.

Mae’n wir fod cyflwyno’r bedd ar ddechrau’r ddrama, a’i ddefnyddio wedyn fel atgof poenus o drasiedi drwy’r ddrama yn elfen o wreiddioldeb ond nid yw’n ddigon i gyffroi cynulleidfa nac yn rhoi unrhyw neges newydd.

Yn anffodus roedd modd rhagweld beth oedd yn mynd i ddigwydd.

Er hyn dyma ddramodydd addawol. Roedd y ddrama wedi’i saerni’n grefftus ac roedd y ddeialog yn rhwydd. Llwyddodd i greu cymeriadau credadwy ac roedd ei neges yn eglur. Trueni na fyddai’r stori ei hun wedi bod yn fwy gwreiddiol.






Straeon Eisteddfod 2001:
ÃÛÑ¿´«Ã½
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am  y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am  y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy