ÃÛÑ¿´«Ã½


Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
» Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau

Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Hwb i apel cronfa merch Glyndwr

Yr oedd un o wleidyddion amlycaf Cymru ar y maes ddydd Mawrth i roi hwb i gronfa arbennig i dalu am gofeb i ferch Owain Glyndwr.

Dywedodd Dafydd Wigley AC, cyn lywydd Plaid Cymru, fod Catrin Glyndwr yr unig un o dylwyth yr arwr yr ydym yn gwybod lle mae wedi ei chladdu.

Wedi ei wrthryfel yn erbyn Lloegr diflannodd Owain Glyndwr ei hun ac nid oes neb yn gwybod lle y’i claddwyd.

Ar gyfer dadorchuddio’r gofeb i’w ferch bydd Stryd Cannon yn ninas Llundain yn cael ei chau ar Fedi 16.

Yn cymryd rhan yn y seremoni bydd yr actores Sian Phillips a Chôr Meibion Llundain gydag Isabel Monnington Taylor yn dadorchuddio’r gofeb sydd wedi ei gwneud o garreg las Gelli-gaer.

Mae Isabel Monnington-Taylor yn dod o deulu Monnington, Swydd Henffordd, y priododd un arall o ferched Owain iddo.

Wedi i Catrin gael ei chipio gyda’i phlant yn Harlech yn 1409 fe’u cadwyd yn wystlon yn Nhwr Llundain ac er nad oes unrhyw dystiolaeth sut y buo nhw farw gwyddom iddynt gael eu claddu yn 1413 yn eglwys Swithin yng nghanol Dinas Llundain.

Cerflun deg troedfedd o uchel yw’r gofeb sydd yn ôl y rhai a’i trefnodd "yn ein hatgofffa o sefyllfa ddwys alltudiaeth a marwolaeth Catrin."


Mae ei sylfaen yn cynrychioli ysbryd bythol Cymru a phigyn efydd sy’n ymestyn o’r garreg yn cynrychioli arweiniad a rhyddid.


"Mae ystum lluniaidd y cerflun yn awgrymu dau ffigwr - un yn pwyso’n amddiffynnol dros y llall - yn dwyn i gof nid yn unig Catrin a’i phlant ond pob merch a phob plentyn sy’n dioddef adeg rhyfel," meddai datganiad.


Straeon Eisteddfod 2001:
ÃÛÑ¿´«Ã½
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am  y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am  y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy