ÃÛÑ¿´«Ã½


Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
» Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau

Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Shakespeare ar y llechen yn y Gymraeg

Llechan LasYn Theatr y Maes brynhawn Llun perfformiwyd Taith wib drwy rhai o ddramâu Shakespere gan Gwmni’r Llechan Las Bethesda.

Roedden nhw wedi dewis perfformio darnau o bedair drama gan William Shakespeare a oedd wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg.

Perfformiwyd detholiad o Romeo a Juliet, Marsiandwr Fenis, Hamlet a Nos Ystywyll.

Roedd y dewis o ddramâu yn un doeth iawn gan fod yma ddigon o amrywiaeth a chyfle i’r gynulleidfa fwynhau’r llon a’r lleddf, y dwys a’r digirf.

Cyfarwydd
Wrth gwrs dyma rai o ddramâu mwyaf poblogaidd y dramodydd enwog hwnnw o’r unfed ganrif ar bymtheg ac felly roedd y mwyafrif yn gyfarwydd a’r cymeriadau oedd ar y llwyfan.

Ond i’r rheiny nad oedden nhw’n gyfarwydd iawn â dramâu Shakespere doedd dim angen poeni gan fod storiwr yn cyflwyno’r stori’n fras ar ddechrau pob drama.

Roedd hyn yn golygu fod pob darn felly’n cael ei roi yn ei gyd-destun.

Eurwen Llewelyn Jones oedd y cynhyrchydd ac yn falch iawn fod y cwmni’n cael y cyfle i lwyfannu rhai o ddramâu Shakespere: "Dwi wrth fy modd a dramâu Shakespeare. Dwi’n cael buzz o wrando, mae ‘na rhythm yn y geiriau i mi."

Dechreuwyd y rhaglen gyda Romeo a Juliet roedd hyn yn ddewis doeth gan fod y stori’n gyfarwydd i bawb. Trasiedi yw Romeo a Juliet a llwyddodd Caren Brown (Juliet) gyda’i pherfformiad grymus i fynd dan groen y cymeriad a chreu naws y ddrama.

Gwrthgyferbyniad llwyr wedyn i hyn oedd Marsiandwr Fenis. Dewisodd y cwmni olygfa’r llys ac roedd digon o fwrlwm yn yr olygfa o’i gymharu â dwyster y ddrama flaenorol. Roedd y gwisgoedd lliwgar yn cyfleu naws llys o’r 16ed ganrif i’r dim.

Iddewon
Mae Shakespere yn yr olygfa hon yn mynegi teimladau’r oes tuag at yr Iddewon. Roedd hwn yn ddarn addas iawn i’w berfformio gan ei fod yn stori ynddo’i hun heb orfod bod yn ymwybodol o weddill ddrama.

Darn o Hamlet gafodd ei pherfformio nesaf gyda perfformiadau graenus gan yr actorion. Fe’i dilynwyd gyda Nos Ystywyll a golygfa ddoniol o’r ddrama honno. Llwyddwyd i gyfelu cymeriad balch a ffroenuchel Malfolio i’r dim.

Roedd yna nifer o elfennau drwy gydol y rhaglen oedd yn ychwanegu at yr awyrgylch. Ar ochr chwith y llwyfan roedd grwp o gerddorion. Roedd y rhain yn perfformio ar ddechrau’r cynhyrchiad wrth i’r gynulleidfa ddod i mewn i’r theatr a rhwng y dramâu.

Yn sicr roedd y gerddoriaeth yn creu naws oes Shakespeare ac yn creu awyrgylch arbennig yn y theatr. Hefyd roedd yn gyflwyniad i’r dramâu gan fod y gerddoriaeth leddf yn awgrymu mai golygfa ddwys oedd o’n blaen a’r gerddoriaeth fywiog yn ein paratoi ar gyfer golygfa ysgafn.

Rhaid canmol y gwisgoedd hefyd. Mae gwisgoedd yn hynod bwysig wrth berfformio drama glasurol er mwyn gosod y cyd-destun.

Llechan LasGorffennwyd y rhaglen gyda chan gan y ffwl. Rhan o Nos Ystywyll oedd hwn ond roedd wedi’i ddewis yn fwriadol er mwyn cloi’r perfformiad. Roedd yn ddiweddglo da i’r daith wib gan ei fod eto’n ychwanegu at naws a hynafiaeth y dramâu.

Llwyddodd Cwmni’r Llechan Las felly i roi darlun cytbwys i ni o ddramâu Shakespere. Roedd yma rywbeth i blesio pawb sy’n hoff o waith y dramodydd hwn o gomedi i drasiedi a’r cwbwl mewn perfformiad graenus iawn.

Bydd Cwmni’r Llechan Las yn perfformio’r ddrama hon eto yn Theatr Gwynedd ar Fedi’r 8fed.


Straeon Eisteddfod 2001:
ÃÛÑ¿´«Ã½
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am  y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am  y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy