![]() |
![]() |
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
![]() ![]() |
![]() Sioe’r plant cynradd yn amserol, ddoniol, fyrlymus Gyda miri dewis Archdderwydd newydd yn cyrraedd ei benllanw roedd thema A Oes Ateb?, Sioe Ysgolion Cynradd Dalgylch yr Eisteddfod yn y Pafiliwn nos Sadwrn yn amserol - ac yn ddireidus. Ac wrth gwrs, rhaid mynd gam neu bedwar ymhellach os am ddychan go iawn. Yn lle cynnal pleidlais, ateb plant ysgolion Dinbych oedd cael cystadeuaeth Pwy sy isio bod yn Archdderwydd? Run fath a Pwy sy isio bod yn filiwnêr? Weithiau mae ymgeiswyr ar yr Archdderwyddiaeth yn honnu nad ydyn nhw, mewn gwirionedd, wir eisiau’r swydd. Ond bod pobol yn pwyso arnyn nhw. Ddim felly efo cystadleuaeth fel hon. "Tomos Dolben Hughes oedd Chris Tarrant ac un doniol iawn oedd o," meddai Llinos Snelson aeth i’r perfformiad ar ran ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru’r Byd. "Y patrwm oedd bod y cystadleuwyr yn gorfod ateb cwestiynau am gymeriadau hanesyddol Cymru - a’r ardal o ran hynny. Wedyn bydden ni’n cael cyflwyniadau am y cymeriad hynny. "Roedd y cwbl yn ddoniol tu hwnt, er bod y patrwm - ar ôl cael ei sefydlu - ychydig yn amlwg. "Ond roedd yr hiwmor, y doniolwch, y canu gwych - yn enwedig o gofio mai plant ysgol cynradd oedd y rhain - a’r coriograffi bywiog yn peri i ni anghofio unrhyw ystyriaethau o’r fath." Archdderwyddes! Roedd y fwydr fawr am gael bod yn Archdderwydd neu Archdderwyddes - gwarchod pawb! - rhwng Bryn Brên a Modryb Meinir. Oedd, roedd Modryb Meinir am fod yr Archdderwyddes gyntaf yn hanes Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Ac yr oedd y teulu’n gwylio pob cam - gwag neu gymwys - o’i eiddo. Fe gawson ni sawl jôc dda wrth iddi fyfyrio am enw groseddawl priodol iddi hi ei hun, megis Meinir Orsedd, Meinir Mynydd ac ati. Roedd yn rhaid iddi brofi ei bod yn meddu stôr o wybodaeth am gymeriadau fel Owain Glyndwr, Catrin o Ferain, H. M. Stanley - heb son am Dei Tomos, Brynle Williams a Tony Blair! Sgriptio cryf "Roedd y sgript yn gryf ac yn ddoniol a’r holl gyflwyniad yn slic iawn," meddai Llinos. "Weithiau, fe all bod rhai o’r jocs yn lleol - doedd ots gen i, rwyn dod o’r ardal - ond hwyrach bod yna rai yn y gynulleidfa’n crafu’u pennau weithiau. Dwi ddim yn meddwl i hyn darfu llawer ar neb, beth bynnag." Roedd yn agos i 200 o blant o dros ugain o ysgolion yn y cast a rhaid canmol a llongyfarch yr holl athrawon fu’n hyfforddi’r plant. "Buasai’n annheg i gyfeirio at ambell un yn fwy na’r lleill," meddai Llinos. "Roedden nhw i gyd yn ardderchog. Dwi’n siwr y cawn ni weld nifer o’r perfformwyr unigol ar lwyfannau yn y dyfodol. "Fe gawson ni sioe oedd yn wirioneddol ddoniol a byrlymus."
| |
![]() © MMI |
![]()
|
![]() |
About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |