ÃÛÑ¿´«Ã½

Newyddion ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Digwyddiadau'r noson yr enillodd Barack Obama etholiad arlywyddol UDA ( 2008).

Adroddiad newyddion ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r noson yr enillodd Barack Obama ei etholiad arlywyddol gyntaf UDA yn 2008. Dangosir y gohebydd Aled Huw, yn fyw o rali'r dathlu, yn sôn am y freuddwyd a wireddwyd. Gwelwn luniau o'r dorf cyn canolbwyntio ar araith ddathlu Obama. Enillodd e ail dymor ym 2012.
O: Newyddion ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
Darlledwyd yn gyntaf : 05 Tachwedd 2008

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Hanes, Astudiaethau Cyfryngau, Cymdeithaseg

Testun : Byd modern, Newyddion teledu, Cymuned a ddiwylliant

Allweddeiriau : Dogfennu digwyddiad tyngedfennol, Cynrychiolaeth ,Semiotig, Hanes yr UDA, Etholiad arlywyddol yr UDA 2008, Barack Obama, Lleiafrif ethnig

Nodiadau : Dadansoddi'r dilyniant agoriadol gan nodi codau a chonfensiynau'r genre newyddion; cyflwynydd, set, mise en scene, lliwiau, eiconograffeg, cyfwelydd, lleoliadau, set, trefn y naratif ac yn y blaen.
Dadadeiladu'r dilyniant teitl ar ei ben ei hun; dynodi beth a welir a beth a glywir ac yna rhoi'r cynodiad.
Cymharu hwn gyda Wales Today - beth sydd yn debyg a beth sydd ddim yn debyg?
Sut y mae'r cynhyrchydd yn creu realaeth yn y darn am Obama?
Beth sy'n digwydd ar y sgrîn yn y stiwdio ar ddechrau'r darn? - mise en scene, y dorf a'u sŵn, siotiau, 'yn fyw', lleoliad ac yn y blaen.
Ysgrifennu erthygl ar gyfer papur newydd neu gylchgrawn papur newydd o dan y teitl 'Gwireddwyd y Freuddwyd' gan gyfeirio at yr hyn y mae Obama yn dweud yn y clip.
Gellir ymchwilio'n bellach i ddarganfod geiriau allweddol eraill a ddywedodd e.e. 'Yes we can!' ac wrth gwrs, ymchwilio erthyglau am Martin Luther King.
Cynllunio poster i bortreadu America newydd i'r byd gyda phwyslais ar gynrychiolaeth.
Cynllunio hysbyseb 30 -60 eiliad ar ffurf storifwrdd dan y teitl 'Dewch i America 2009' neu 'America'r Dyfodol' neu deitl gwreiddiol eu hunain yn awgrymu'r pethau hyn.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


ÃÛÑ¿´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ÃÛÑ¿´«Ã½

ÃÛÑ¿´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.