ÃÛÑ¿´«Ã½

Camp Bastion -Tebygrwydd

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Tri nyrs yn cymharu eu rôl yn Camp Bastion gyda'i swyddi gartref.

Cyfweliadau gyda nyrsys ar eu gwaith nhw mewn ysbyty yn Camp Bastion, Affganistan. Gwelwn Eirian, sydd fel arfer yn gweithio fel nyrs orthopedig yn Ysbyty Gwynedd, yn sôn am debygrwydd yr anafiadau mae'n delio â nhw pan fydd pobl yn cael eu hanafu ar fynyddoedd Eryri â'r anafiadau a geir yn Affganistan. Mae Gethin, ar y llaw arall, yn sôn am y gwrthgyferbyniad rhwng nyrsio yn Affganistan a'i rôl arferol fel nyrs gymunedol yn Amlwch, Ynys Môn. Yno mae'n delio'n bennaf â'r henoed, ond yng ngwersyll Camp Bastion gorfodwyd hi drin llawer o blant ac felly mae wedi cael profiadau newydd yn y gwersyll. Mae'r trydydd nyrs, Nia, yn delio â llawer o anafiadau difrifol ac yn mwynhau'r her.
O: O'r Galon - Camp Bastion
Darlledwyd yn gyntaf : 10 Ionawr 2009

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Testun : Iechyd Meddwl, Gweithio mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Allweddeiriau : Iechyd meddwl oedolion, Gweithio mewn tîm, Gweithwyr allweddol, Maes brwydr, Trawma, Nyrsio, Rhyfel Affganistan

Nodiadau : •Pa rinweddau a sgiliau cyfathrebu sydd eu hangen ar y nyrsys yma i weithio gartref ac mewn rhyfel? Ydyn nhw'r un fath? •Crëwch dabl sy'n cymharu sut mae rôl nyrs orthopedig yn wahanol i rôl nyrs gymunedol. •Addas ar gyfer Uned 1 H&S - Mathau o wasanaethau gofal - 'Prif rolau a sgiliau darparwyr iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau plant' . •Trafodwch egwyddorion gofal.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


ÃÛÑ¿´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ÃÛÑ¿´«Ã½

ÃÛÑ¿´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.