ÃÛÑ¿´«Ã½

Dynes yn ffilmio

Ymunwch â ni ar Flickr

Mae grŵp Flickr ÃÛÑ¿´«Ã½ Eisteddfod wedi cau am eleni. Dewch yn ôl y flwyddyn nesaf i ychwanegu lluniau o Eisteddfod Glyn Ebwy.

Cliciwch i weld y grŵp (dwyieithog):

I ymuno, mae'n rhaid i chi fod yn aelod o Flickr. Os nad ydych wedi gwneud eisoes, mae ymaelodi yn rhad ac am ddim.

Cyn ychwanegu eich lluniau neu fideos, darllenwch y termau ac amodau isod.

Termau ac amodau ychwanegu lluniau i grŵp Flickr ÃÛÑ¿´«Ã½ Eisteddfod

  • Gwnewch yn siŵr mai chi sy'n berchen yr hawlfraint cyn ychwanegu unrhyw lun. Fel arfer mae hyn yn golygu mai chi dynnodd y llun.
  • Peidiwch ag anfon: lluniau proffesiynol, gan gynnwys lluniau ysgol, lluniau allan o lyfrau, cardiau post neu luniau rydych wedi dod ar eu traws ar y we, lluniau'n cynnwys gwaith celf neu logo amlwg; lluniau o blant o dan 16 oed heblaw eich bod yn gallu dangos caniatâd y rhieni.
  • Trwy rannu eich llun gyda ÃÛÑ¿´«Ã½ Eisteddfod ar Flickr rydych yn cytuno i roi caniatâd i'r ÃÛÑ¿´«Ã½, yn ddi dâl i ddefnyddio eich llun (gan gynnwys addasu'r llun am resymau gweithredol neu olygyddol) ar bbc.co.uk, a ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru Wales.
  • Byddwch chi yn cadw'r hawlfraint ar eich llun ac nid yw'r caniatâd yn un unigryw, felly gallwch ddefnyddio'r llun lle bynnag y mynnwch a rhoi'r hawl i eraill i'w ddefnyddio hefyd.
  • Trwy roi hawl i'r ÃÛÑ¿´«Ã½ ddefnyddio eich llun, rydych yn cadarnhau mai eich gwaith personol chi ydyw, nid yw'n ddifenwol nac yn torri unrhyw gyfraith y DU na hawlfraint neb arall, a bod gennych hawl i roi caniatâd i'r ÃÛÑ¿´«Ã½ i'w ddefnyddio ar gyfer y defnydd a nodir uchod, a bod gennych ganiatâd unrhyw berson a all gael ei adnabod yn eich llun.
  • Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i beidio a derbyn eich llun am unrhyw reswm ac i'w dynnu o grŵp Flickr ÃÛÑ¿´«Ã½ Eisteddfod os yw'n torri unrhyw un o'r amodau uchod.
  • Mae'n bosib bydd yn rhaid i'r ÃÛÑ¿´«Ã½ gysylltu â chi am resymau gweinyddol neu i wirio manylion, byddwn yn cysylltu â chi yn unol â .
  • Os nad ydych yn dymuno rhoi'r hawl i'r ÃÛÑ¿´«Ã½ fel a nodir uchod, peidwch a rhannu eich lluniau gyda grŵp ÃÛÑ¿´«Ã½ Eisteddfod ar Flickr.
  • Peidiwch a rhoi eich hun na neb arall mewn perygl, cymryd unrhyw risg di-angen na thorri unrhyw gyfraith wrth dynnu eich lluniau.
  • Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol a / neu manylion personol yr ydych yn ei gynnwys ar wefannau allanol, gan gynnwys Flickr. Bydd unrhyw ddefnydd o Flickr yn unol â'r termau defnyddio. Darllenwch dermau defnyddio a pholisi preifatrwydd Flickr cyn ychwanegu unrhyw gynnwys i grŵp ÃÛÑ¿´«Ã½ Eisteddfod ar Flickr. I'r graddau bod gwrthdaro gyda'r termau hynny, bydd yr amodau a nodir uchod yn berthnasol i ddefnydd y ÃÛÑ¿´«Ã½ o'ch llun yn unig.
  • Ni allwn sicrhau bod pob cynnwys yn cael ei ddefnyddio a chadwn yr hawl i olygu eich sylwadau.
  • Er eich bod yn dal yr hawlfraint ar eich llun, trwy ei anfon i'r ÃÛÑ¿´«Ã½ rydych yn cytuno i roi trwydded nad yw'n unigryw i gyhoeddi neu ddefnyddio'r deunydd fel arall, yn ddi-dâl. Ewch i dudalen y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn ganolog am fanylion llawn.

Canlyniadau

Côr Cynta i'r Felin

Rhestr lawn

Canlyniadau'r wythnos yn llawn.

C2

Cyfweliad gyda Gwyneth Glyn

Yn y Steddfod

Lluniau a chlipiau ecscliwsif o gigs yr Eisteddfod.

ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

Cerflun yn nhref Y Bala

Y Bala

Adnabod tref Y Bala ar wefan ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol i'r gogledd orllewin.

ÃÛÑ¿´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ÃÛÑ¿´«Ã½

ÃÛÑ¿´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.