 Mwyniant Maldwyn - Eisteddfod y ÃÛÑ¿´«Ã½
Mari Jones-Williams yn sgrifennu am ddarpariaeth ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru o Faes y Brifwyl ym Meifod.
Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru yn gymaint o ran o'r Eisteddfod Genedlaethol a'r pafiliwn ei hun, o ran yr amrywiol gyflwynwyr sy'n gwibio o gwmpas y maes yn dod ag ysbryd a hwyl yr wyl i gartrefi Cymru, y darlledu di-baid ar deledu analog a digidol, radio ac ar-lein, yn Gymraeg a Saesneg, heb anghofio canolfan ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru sydd wastad yn ganolfan amlwg, fywiog ar y maes.
Ar y maes Eleni, bydd canolfan ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru ar y maes yn cynnig mwy nag erioed, wrth i ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru annog eisteddfodwyr Meifod i gymryd cip ar yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llen a gweld y rhaglenni yn cael eu hymarfer, eu cynhyrchu a'u darlledu'n fyw.
Bydd cyfle i ymwelwyr gael eu tywys gan reolwr llawr o amgylch y stiwdio agored, a bydd yn egluro yn union sut mae rhaglenni yn cael eu creu. Bydd modd gweld y rhaglenni yn cael eu cyflwyno yn fyw, gweld y gwahanol gorneli y mae'r camerâu yn ffilmio ohonynt a chael tro yn cymysgu lluniau i olygu rhaglen eich hun.
O dan yr un to hefyd, bydd sgrîn i wylio'r perfformiadau o'r llwyfan, cyfle i weld y sylwebwyr wrth eu gwaith a digonedd i'w weld a'i wneud. Bydd cownter yn gwerthu nwyddau gan gynnwys gwydrau peint Cic Mul, sef bragdy Cwmderi, a llieiniau llestri Caffi Anita.
Bydd cyfle hefyd i gyfarfod actorion Pobol y Cwm, wrth iddyn nhw bicio i mewn yn eu tro.
Bydd llwyfan Radio Cymru yn amlwg iawn, yn fôr o firi a pherfformiadau cyffrous gyda band byw yn perfformio am 1.30 bob dydd ac yn cael eu cyflwyno gan Owain Gwilym a Dylan Wyn.
Yn eu tro, bydd Pheena, Rhydian, Acoustique, Gwenno, John ac Alun a Bryn Fôn yno gyda chyfle i unrhyw un sydd a ffansi bod yn dipyn o DJ droelli gyda Dylan bob prynhawn.
Bydd bws ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru hefyd wedi ei leoli y tu allan i ganolfan ÃÛÑ¿´«Ã½ ar y maes, lle mae cyfle i roi tro ar gyfrifiaduron a derbyn pob math o hyfforddiant difyr a defnyddiol.
ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru Os methwch chi â bod ym Meifod does dim rhaid colli dim o'r hwyl, y cystadlu, cyngherddau, gigs nac awyrgylch y prif faes, Maes B a'r maes carafanau.
Ar y Sadwrn cyntaf yn y Babell Lên am 3.00pm, bydd gornest derfynol Y Talwrn, Crannog yn erbyn Y Waunfawr. Go brin y gwnaiff pawb lwyddo i gael sedd, ond bydd cyfle i glywed y cyffro eto ar y 10fed o Awst, pan gaiff y rhaglen ei darlledu.
Hywel Gwynfryn ddaw â holl hanes y cystadlu, Nia Lloyd Jones sy'n dod a hwyl a thensiwn cefn y llwyfan ac Owain Gwilym sy'n dod â rhialtwch y maes yn rhaglen O'r Maes yn ddyddiol am 10am a 2.30pm. Bydd y rhaglen hon yn cynnwys holl brif seremonïau'r dydd: Coroni'r dydd Llun, Gwobr Daniel Owen ddydd Mawrth, seremoni'r Prif Lenor Rhyddiaeth ddydd Mercher, Croesawu Cymru'r Byd ddydd Iau, a'r Cadeirio ddydd Gwener.
Bydd Beti George ynghanol y gweithgareddau fel arfer, yn cyflwyno Tocyn Wythnos am 5.00 ddydd Sadwrn, 6.40 ddydd Sul a 6.30 weddill yr wythnos heblaw dydd Iau, pryd mae'r rhaglen yn dechrau am 7.00.
Gydol yr wythnos hefyd bydd Alun Thomas a Garry Owen yn trafod newyddion y byd a'r Eisteddfod, yn fyw o'r maes yn Post Cyntaf am 7.00 bob bore gyda Rhian Haf yn adrodd ar y traffig ar ffyrdd yr Eisteddfod, a gweddill Cymru wrth gwrs, a Heledd Sion yn dod ag adroddiadau dyddiol o ddigwyddiadau'r maes hollbwysig arall hwnnw, Maes B.
Bydd Alun Thomas yn darlledu ei raglen yn fyw o'r maes ddydd Sul (10.15), a bydd Oedfa'r Bore (11.30) hefyd yn dod o'r pafiliwn gyda'r Parchedig R Alun Evans yn arwain oedfa ar y thema A Oes Heddwch?.
Nos Sul hefyd bydd un o uchafbwyntiau'r wythnos yn cael ei ddarlledu yn fyw o'r Pafiliwn. Mae Ieuan Jones yn delynor rhyngwladol, ac yn y perfformiad arbennig hwn o weithiau Tchaikovsky a Rodrigo bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn ymuno ag o.
Bydd rhaglen hanner awr eisteddfodol o Taro'r Post yn cael ei darlledu yn ddyddiol am 1pm, gyda Dylan Jones a'r tîm gohebu yn crwydro'r maes am bynciau llosg y dydd. Bydd Post Prynhawn am 5.45pm hefyd yn rhoi sylw i'r Eisteddfod bob prynhawn.
Ac ar ddydd Iau, bydd rhifyn arbennig o Manylu yn trafod pwnc dyrys ac amserol, sef dyfodol yr Eisteddfod. Gwilym Owen fydd yn cadeirio'r drafodaeth yn y neuadd ddawns ar y maes am 4.15pm, gyda'r darllediad am 6.30pm.
Ym Maes B bydd cyflwynwyr C2 yn crwydro'r maes pebyll a'r gigs, yn dod â rhialtwch y gornel fywiog hon o'r byd eisteddfodol i'r criw gartref. Daf Du, Beca Evans, Huw Stephens, Jeni Lyn, Steve a Terwyn, Heledd Sion a Kevin Davies bydd y llu yno yn dod â chyfweliadau gyda'r bandiau, adolygiadau o CDs a chylchgronau'r wythnos, adolygiadau o'r Babell Roc ar y maes, ryff geid i ardal Meifod, y sbri o'r gorlan goffi ac wrth gwrs, uchafbwynt gig y nos gyda'r prif fand yn perfformio'n fyw. Yn ystod yr wythnos bydd Estella, Meic Stevens, Anweledig, Bryn Fôn a Geraint Jarman oll i'w clywed.
Am 8.30 ar nos Iau a nos Wener bydd Cabare Carafannau yn dod â pherfformiadau byw, cystadlaethau, gwesteion a llond adlen o adloniant gydag Idris Charles.
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru ar S4C Bydd ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru yn gofalu bod gan wylwyr sêt flaen yn y pafiliwn yn ogystal â safle ynghanol bwrlwm y maes a'r gweithgareddau ymylol, a hynny heb symud o'r soffa.
Huw Llywelyn Davies fydd yn llywio rhaglenni'r prynhawn ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru ar S4C rhwng 3.30 a 6.00 ac yn cadw cwmni iddo yn y stiwdio bydd Lisa Gwilym.
Bydd Shân Cothi yng nghefn y llwyfan yn sgwrsio gyda'r cystadleuwyr ac ambell i feirniad, tra bo Ffion Dafis yn crwydro'r Maes yn cyflwyno'r newyddion diweddaraf o bob twll a chornel.
Lisa Gwilym fydd yn cyflwyno'r uchafbwyntiau gyda'r nos gan ddarlledu cystadleuaeth Ysgoloriaeth W Towyn Roberts yn fyw o'r Pafiliwn am 7.45 ar nos Fercher. Bydd uchafbwyntiau'r dydd yn y Babell Lên hefyd i'w gweld ar raglenni'r hwyr ar S4C Digidol yn ystod yr wythnos.
Bydd ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru hefyd yn recordio rhan o'r arlwy nosweithiol ar gyfer eu darlledu yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gan gynnwys cyngerdd Ieuan Jones a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½ a chyngerdd y Corau Meibion a Shân Cothi.
Gan gychwyn am 10.00 bob bore ar S4C Digidol bydd Alwyn Humphreys hefyd yn sylwebu o'i unfed-eisteddfod-ar-hugain.

|