 |
Cyflwynydd Teledu
Ganed Alun Williams yn Llanelwy ac fe'i magwyd yn Rhuddlan. Aeth i Ysgol Gynradd Dewi Sant, Y Rhyl ac yna i Ysgol Uwchradd Glan Clwyd. Mae'n byw yng Nghaerdydd yn awr.
Mae'n gyflwynydd ar Planed Plant ar S4C ac fe'i gwelir hefyd yn bwyta bwydydd anghynnes ar raglen goginio tra gwahanol Stwffio ar S4C gydag Anthony Evans gan ffilmio'r rhaglen ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych.
Roedd Alun yn aelod o'r Urdd Adran Diserth ac yn cystadlu yn yr Eisteddfod er ei fod yn cyfaddef nad oedd yn cael llawer o hwyl arni, ac mai Lowri, ei chwaer, oedd yn disgleirio ar y llwyfan. Roedd ef yn cael llawer mwy o lwyddiant yng ngweithgareddau eraill yr Urdd megis cystadlaethau pêl-droed.
"Rwy'n edrych ymlaen i gael croesawu pawb i Sir Ddinbych ble cefais fy ngeni a'n magu a chael dangos i bawb beth sydd gan Sir Ddinbych i'w gynnig," meddai Alun Williams, cyn bod yn Llywydd y dydd yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych.
Darparwyd y wybodaeth hon gan Urdd Gobaith Cymru.
 |
 |
 |
|

|