Actor sy'n wyneb cyfarwydd ar deledu Cymraeg a Saesneg.
Perfformio mewn drama ar lwyfan Ysgol Morgan Llwyd a sbardunodd yr hogyn o Rhos, Mark Lewis Jones, i ddewis byd y ddrama fel gyrfa. Mae'n cyfaddef nad oedd fawr ddim arall yn mynd â'i fryd yn fachgen ifanc: "Doedd gen i ddim diddordeb mewn dim byd," meddai Mark. "Ond pan o'n i'n 16 oed roedd yr ysgol yn perfformio Culhwch ac Olwen. Roedd bod ar lwyfan yn rhywbeth newydd iawn i mi a wnes i fwynhau'r profiad."
Mae wedi talu teyrnged i'w athrawes ddrama yn Ysgol Morgan Llwyd, Gwawr Dafis - Mason gynt - am annog ei ddiddordeb ym myd y ddrama.
Aeth ymlaen i actio gyda Theatr Ieuenctid Clwyd a chael ei hyfforddi yn Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd. Bu hefyd actio gyda'r Royal Shakespeare Company ac yn theatr y Globe yn Llundain.
Mae'n adnabyddus am chwarae cymeriadau caled, pwerus, fel y Ditectif Russel Bing yng nghyfres ddrama'r ÃÛÑ¿´«Ã½ 55 Degrees North sydd wedi ei gosod mewn gorsaf heddlu.
Yn ôl tudalen amdano ar wefan Wikipedia, mae wedi chwarae rhan plismon ddim llai na phum gwaith a milwr dair gwaith. Roedd hefyd yn filwr yn y gyfres deledu o'r 1990au, This Life, lle roedd yn chwarae rhan brawd y cyw gyfreithiwr o Gymro, Warren Jones.
Mae ei bapur bro lleol, Nene, yn dilyn ei hynt a'i helynt yn gyson:
Cyfnod prysur i actorGog yn creu trafferth yng Nghwmgwili
Mae ei waith teledu arall yn Saesneg yn cynnwys Holby City, Spooks, Murphy's Law, Waking the Dead, The Bench a Torchwood.
Yn y Gymraeg, mae wedi ymddangos mewn sawl cyfres ddrama ar S4C gan gynnwys, yn fwyaf diweddar, Con Passionate a Chalon Gaeth.
Mae ei waith ffilm yn cynnwys Solomon a Gaenor gyda Ioan Gruffudd a Nia Roberts (mae'n chwarae rhan brawd Gaenor, Crad) a gafodd enwebiad am Oscar a'r blocbystyr Hollywood Master and Commander gyda Russell Crowe.
Mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i bartner Delyth Jones, a rhyngddynt, mae ganddynt saith o blant.