ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Chwaraeon
Michael Owen
Michael Owen

Ganwyd: 14 Rhagfyr 1979

Magwyd: Caer

Addysg: Ysgol Uwchradd Penarlâg, Sir y Fflint


Pêl-droediwr rhyngwladol, yn chwarae dros Lloegr a Newcastle.

Wyddech chi? : Cyflog cyntaf Michael fel prentis YTS oedd £42.50 yr wythnos! Fe chwaraeodd ei dad Terry i dîmau Caer ac Everton.

Fe ffrwydrodd seren Lloegr ar y llwyfan rhyngwladol yn 1998 yn erbyn Ariannin yng Nghwpan y Byd a sgorio! Ers hynny mae o'n un o brif sgorwyr Cynghrair Lloegr ac bu'n allweddol yn llwyddiannau Lerpwl ac roedd yn aelod amlwg iawn o sgwad Lloegr ar gyfer Cwpan y Byd 2002.

Ganwyd Michael dros y ffin yng Nghaer yn ysbyty y Countess of Chester i rieni o Saeson sy'n ei alluogi i chwarae i Loegr. Mae ei neiniau a'i deidiau hefyd yn Saeson oni bai am un sy'n hannu o'r Alban. Felly, er ei fod wedi byw yng Nghymru ar hyd ei fywyd, mae ganddo fwy o hawl i chwarae dros yr Alban yn dechnegol na Chymru.

Ar waethaf ei gyfoeth mawr, mae ganddo dŷ o hyd ym Mhenarlâg, sir y Fflint ac yn wir mae o wedi prynu'r stryd i gyd bron i'w deulu agos am dri chwarter miliwn o bunnau. Mae ei rieni, ei frodyr a'i chwaer yn byw yno.

Fe brynodd dŷ arall yn Sychdyn ger yr Wyddgrug yn agos at glwb golff Llaneurgain, gêm arall sy'n mynd â'i fryd, ac mae o'n rhagori yn hwnnw hefyd!

Fe wnaeth Michael ei farc yn wreiddiol fel aelod o sgwad dan 11 Cyngor Ysgolion Cynradd Glannau Dyfrdwy. Er ei fod yn chwarae yn erbyn hogiau hÅ·n a mwy, fe ddangosodd sgiliau a hyder a ddenodd sgowtiaid o glybiau proffesiynol o Loegr i'w weld yn chwarae.

Yn 11 oed fe chwalodd record goliau Ysgolion Cynradd Glannau Dyfrdwy pan sgoriodd 79 gôl. Roedd hyn yn curo'r record flaenorol o 72 gôl sef record un arall o wŷr chwedlonol Anfield, Ian Rush.

Yn dilyn ei ddebut yng Nghwpan y Byd 1998, gorfu i Michael frwydro am ddwy flynedd yn sgîl anafiadau a beryglodd ddatblygiad ei yrfa. Gwrthododd roi'r gorau iddi hi ac fe ddaeth dros yr anffawd a ailennill ei safon yn ystod gêmau rhagbrofol Cwpan y Byd 2002 gan orffen gyda thair gôl yn erbyn yr Almaen.

Yn 2001, roedd o'n ganolog i lwyddiant Lerpwl a sicrhaodd driawd o fuddugoliaethau Cwpan. Mae o eisoes wedi sgorio 100 o goliau i Lerpwl yn ystod ei yrfa.

Agorwyd pennod newydd yng ngyrfa Michael Owen yn Awst 2004, pan arwyddodd gytundeb gyda chlwb Real Madrid am £8m.

Erbyn diwedd Awst 2005, cyhoeddodd clwb Newcastle eu bod wedi cytuno ar ffi gyda Real Madrid i brynu Michael Owen. Mae Michael Owen bellach yn chwarae i dîm Newcastle ar barc St James's.

Gêm gyntaf i Loegr: 11 Chwefror 1998 yn erbyn Chile
Gôl gyntaf i Loegr: 27 Mai 1998 yn erbyn Morocco
Gôl gyntaf yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd: 22 Mehefin 1998, yn erbyn Rwmania.

Mae'n briod â'i gariad ers dyddiau ysgol, Louise ac yn dad i Gemma Rose.

Ei funud fawr: Dydd Sadwrn 1 Medi 2001: Michael yn sgorio tair gôl ym muddugoliaeth Lloegr dros yr Almaen, yn well hyd yn oed na'i gôl yn erbyn yr Ariannin yng Nghwpan y Byd 1998.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý