Un o gestyll Edward 1af ydy'r castell mawreddog yn Rhuddlan a gododd yn ystod ei ymgyrch fawr i goncro Cymru. Adeiladodd y castell yma rhwng 1277 a 1282 i amddiffyn y dref newydd a grëwyd i'r Saeson gerllaw ac i gryfhau ei reolaeth ar yr ardal. Mae'n debyg fod byddin y Cymry fod wedi difrodi'r castell ar un adeg oherwydd bu angen ei atgyweirio yn 1285.
Yn ôl traddodiad roedd gan dywysog Gwynedd, Gruffudd ap Llywelyn, balas gerllaw ar safle sy'n cael ei alw'n Twt Hill heddiw. Dilynwyd y castell Cymreig hwnnw gan gastell Normanaidd.
Mae enghraifft o orchest beirianyddol ger castell Edward. Er mwyn i gyflenwadau gyrraedd y castell, cloddiwyd camlas ddofn ar hyd afon Clwyd i'r môr dros ddwy filltir i ffwrdd er mwyn i longau allu dod at y castell. Byddai'r llanw yn creu doc (llun 5), lle gallai llongau ddadlwytho drwy'r porthdy.
Yn 1284, cyhoeddodd Edward Statud Rhuddlan yn y castell lle cyhoeddai bod Cymru dan reolaeth Lloegr ac yma y cyhoeddodd y byddai'n gwneud ei fab, a anwyd yng Nghastell Caernarfon, yn dywysog Cymru. Mae'r safle dan reolaeth .
 |