ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Hawlfraint Archif Wrecsam Teyrngarwch a Hierarchaeth
Ar ôl wythnosau o baratoi, roedd Wrecsam yn barod i roi croeso i'r Frenhines Fictoria. Cyrhaeddodd y frenhines orsaf Rhiwabon am chwarter wedi pedwar, ar brynhawn Sadwrn 24 Awst 1889.

Teithiodd ar hyd yr hen ffordd i Wrecsam dan gyfres o fwâu addurnedig. Roedd pob man wedi'i addurno gyda fflagiau a mân faneri.

Roedd sawl baner yn datgan teyrngarwch i'r goron ac yn cyfarch y frenhines mewn Cymraeg a Saesneg.

Daeth tyrfaoedd, gan chwifio hetiau a hancesi, i'w chyfarch wrth i'r Frenhines Fictoria fynd heibio yn y cerbyd brenhinol, gyda'i gosgordd o filwyr a'i gweision Indiaidd, a theithio trwy strydoedd gorlawn Wrecsam.

Derbyniwyd y frenhines gan y maer a rhai o enwogion lleol ar ddarn o dir caeedig ym Mharc Acton, tra oedd y cyfranwyr cyfoethog, a brynodd yr addurniadau, yn cael eistedd yn y seddau gorau.

Wedyn, gwrandawodd y frenhines ar gôr o bedwar cant o leisiau, ynghyd â rhagor na 10,000 o blant yr ysgolion Sul, yn canu fersiwn arbennig o'r Anthem Genedlaethol.

Derbyniodd pob un o'r plant fathodyn coffaol i ddathlu'r achlysur. Dridiau yn ddiweddarach cafodd y maer ei urddo'n farchog am drefnu achlysur mor rhwysgfawr.

  • Yn ôl i'r dechrau



  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý