Cafodd y pensaer John Gibson ei gomisiynu gan y Fonesig Willoughby de Broke er cof am ei gŵr. Hi osododd y garreg sylfaen ar Orffennaf 24, 1856 ac fe gwblhawyd y gwaith bedair blynedd yn ddiweddarach ar gost o £60,000. Cafodd yr Eglwys ei gysegru gan Esgob Llanelwy ar Awst 23, 1860.
Mae 83 o filwyr o Ganada ym mynwent yr Eglwys. Ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y milwyr yng Ngwersyll Parc Cinmel yn disgwyl dychwelyd adref, Bu'r mwyafrif farw yn sgil epidemig y ffliw, ond hyd heddiw mae dirgelwch ynglŷn â marwolaeth pump o'r milwyr.
Bu iddynt farw yn sgil miwtini yn y gwersyll ar Fawrth 5ed, 1919.
 |