"Cafodd y c么r ei sefydlu ym 1947, pan ddaeth yr hogia oedd yn byw yn Froncysyllte ddychwelyd o'r Rhyfel.
"Yn y dyddiau hynny doedd fawr ddim i'w wneud ac felly fe sefydlwyd c么r a'r flwyddyn wedyn roedd digon i gystadlu yn Eisteddfod Llangollen.
"Nid oedd yn g么r mawr o'i gymharu 芒 heddiw ond fe dyfodd ac ymhen dwy flynedd rwy'n deall roedd rhyw 80 yn aelodau.
"Yn y blynyddoedd ers hynny fe gododd aelodaeth y c么r i dros gant ac roeddynt yn cystadlu bob blwyddyn yn Llangollen - dyna oedd eu prif beth bob blwyddyn.
"Mae'r c么r wedi bod yn ffyddlon iawn i Eisteddfod Llangollen a dwi ddim yn cofio'r un flwyddyn lle nad ydym wedi cystadlu yno.
"Dros y blynyddoedd rydym wedi gwneud yn dda yno ac wedi ennill ddwywaith. Mae pobl Llangollen yn ein gweld fel y c么r lleol.
"Rydym yn ymarfer ddwywaith yr wythnos yn Ysgol Acrefair a rhyw 60 sydd yn y c么r erbyn hyn.
"Mae'r C么r yn gwneud tair cyngerdd y flwyddyn i D欧 Eos yn Wrecsam ac yn ogystal 芒 Llangollen rydym hefyd yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ond nid bob blwyddyn.
"Rydym hefyd wedi teithio dros y m么r gan gystadlu ac ennill yn Athen a Malta. Mae'n rhaid i chi fynd i lefydd eraill a cheisio gwneud yn dda yn y fan honno.
"Rwyf wedi bod yn aelod o'r c么r ers ugain mlynedd ac mae'r cymdeithasu yn bwysig. Rydym yn edrych ymlaen at weld ein gilydd bob wythnos a dysgu darnau newydd.
"Rydym wedi recordio CD's o'r blaen ond dim byd mawr
"Bu Daniel Glatman o Lundain yn gwrando arnom mewn priodas yn Trefor Hall yn Llangollen y flwyddyn ddiwethaf.
"Dyma'n gaddo i ni bryd hynny y byddai'n cael cytundeb recordio i ni hefo Universal i wneud CD.
"Tydi hyn ddim y math o beth sydd yn digwydd i gorau meibion ac rydym yn edrych ymlaen at ryddhau'r CD a gobeithio y daw ag ychydig o bleser i bobl."
Denu sylw Hollywood
 |