ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Corwen
Mared Tomos 'Anrheg' o Gadair i Mared
Myfyrwraig 19 oed o Lanymddyfri enillodd Cadair Eisteddfod Clwb Ffermwyr Ifanc 2007 gyda Stori Fer yn dwyn y teitl 'Yr Anrheg.'
Mae Mared Tomos wedi ennill cadair o'r blaen a hynny pan yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Pantycelyn, Llanymddyfri rhyw dair blynedd yn ôl.

Daeth yn ail yn Sir Gâr y llynedd ond dyma'r tro cyntaf iddi gystadlu yn genedlaethol.

gwrando Mared Tomos yn sgwrsio gyda Geraint Lloyd ar Radio Cymru

"Stori fer 'dwi 'di ysgrifennu ar y testun anrheg," eglura Mared.

"Mae'n sôn am gwpwl sy'n prynu anrheg i'w merch sef ceffyl ar gyfer y Nadolig.

"Ond mae hi'n cwympo oddi ar y ceffyl ac yn marw, a chi'n gweld tristwch y rhieni.

"Ond ar y diwedd mae rhyw dro bach lle mae golygfa mewn ysbyty arall lle mae merch arall yn disgwyl calon newydd ac felly dyna'r anrheg."

Mared Tomos

Mwnci oedd y llysenw a ddefnyddiodd Mared, enw y mae hi wedi ei ddefnyddio o'r blaen.

"Mae'n enw sydd wedi dod â lwc i fi o'r blaen yn y Steddfod Ysgol. Ac roeddwn i yn meddwl y daw â lwc i mi eto."

Cafodd lwyddiant yn Eisteddfod y llynedd fel rhan o'r grŵp Amheus, enillodd gystadleuaeth y Gân Bop.

Mae Mared yn fyfyrwraig ail flwyddyn yn y Brifysgol yn Llanbed lle mae'n astudio Cymraeg ac yn gobeithio mynd ymlaen i ddysgu ar ôl hynny.

Bu'n aelod gweithgar o Glwb Llangadog ers pum mlynedd ac eleni hi yw Swyddog y Wasg.

"'Dwi wedi cynrychioli'r clwb sawl gwaith ar lefel sirol yn Sir Gâr a chenedlaethol.

"Ni'n glwb mawr iawn ac mae lot o flynyddoedd ar ôl 'da fi gyda'r clwb i ddod.

"Roedd hi mor braf gweld fy holl ffrindiau yn eistedd yn y gynulleidfa heddiw.

"'Na'r peth pwysig o fewn clwb y ffermwyr ifanc - y cymdeithasu.

"Byddwn yn parhau i gystadlu - dwi'n credu bod hi'n bwysig i'r iaith Gymraeg bod pobl yn cystadlu er mwyn cadw barddoniaeth a llenyddiaeth yn fyw yng Nghymru.

"Fi 'di bod mor nerfus heddi, credwch chi ddim! Ond yr amser wnes i godi fe wnaeth popeth setlo ac mi wnes i ddechrau mwynhau.

"Roedd wir yn wefr oherwydd roedd paw bar bigau'r drain i wybod pwy oedd yn mynd i godi

"Roedd hi'n brofiad anhygoel iawn."

Roedd Cadair yr Eisteddfod eleni yn rhoddedig gan Gangen Meirionnydd, Undeb Amaethwyr Cymru.



Trefi
Radio Cymru
Papurau Bro


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý