Mi fydd Katherine Jenkins yn canu yng nghyngerdd agoriadol Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2010.
Hefyd yn cymryd rhan fydd y chwaraewr ffidil Nigel Kennedy, y cyfansoddwr Karl Jenkins, côr Only Men Aloud a'r pianydd Llyr Williams.
Chwaraeodd Nigel Kennedy yn yr eisteddfod am y tro cyntaf ym 1998 ac mae'n dychwelyd 12 mlynedd yn ddiweddarach gyda rhaglen o weithiau gan Bach ac Ellington, sy'n adlewyrchu ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth clasurol a jas.
Mae'r eisteddfod yn agor (5 Gorffennaf) gyda chyngerdd gala. Ei seren fydd Katherine Jenkins. Y noson ganlynol bydd y cyfansoddwr Cymreig Karl Jenkins yn arwain ei 'Mass for Peace' gyda chôr Cymru a'r Byd, a Sinfonia Cymru sy'n perfformio am y tro cyntaf yn Llangollen.
Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys perfformiad o 3ydd concerto Beethoven gan y cerddor lleol a'r pianydd byd-enwog LlÅ·r Williams.
Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill fydd ymweliad gan fand llinynnau pedwar-darn Bond. Mi fydd eu cyngerdd hwyrol - 'Shine' - yn cynnwys dawnswyr a chôr o 100 o blant.
Bydd Only Men Aloud, y côr buddugol yng nghystadleuaeth 'Last Choir Standing' y ÃÛÑ¿´«Ã½, yn ymweld â'r eisteddfod am y tro cyntaf ar 9 Gorffennaf a byddant yn canu ffefrynnau Cymraeg ymysg darnau eraill.
Ac, wrth gwrs, fe fydd cannoedd o berfformwyr o 50 wlad yn perfformio yn y pafiliwn ac ar y maes yn ystod yr ŵyl.
Lluniau o Eisteddfod Llangollen 2009
 |