ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Telynores yng ngŵyl 2006 Gŵyl Gerdd Dant 2008
Y gogledd ddwyrain sy'n croesawu yr Å´yl Gerdd Dant unwaith eto yn 2008.
Wedi trip lawr i'r de i Bontrhydfendigaid yn 2007, Theatr y Pafiliwn yn y Rhyl fydd yn ei chroesawu yn 2008 gydag ardal Dyffryn Clwyd gyfan, o gefn gwlad Bryneglwys a Derwen, i lawr trwy'r Dyffryn hyd lannau môr Prestatyn a'r Rhyl, yn cael ei chynnwys yn yr ardal wahodd - ardal â thraddodiad gref o gerdd dantio.

"Bydd hi'n braf iawn dod nôl i Ddyffryn Clwyd, ac i'r Rhyl, 14 mlynedd ers iddi ymweld â'r dref glan môr ddiwethaf," meddai Dewi Jones, trefnydd yr ŵyl.

"Gyda threfi marchnad Dinbych a Rhuthun hefyd yn rhan o'r ardal wahodd, bydd cymysgedd o hufen iâ a hwyl i'w flasu yng Ngŵyl Gerdd Dant Dyffryn Clwyd ar yr 8 o Dachwedd 2008!"

Yn arwain y criw yn Nyffryn Clwyd bydd wyneb a llais cyfarwydd, Leah Owen. Yn wreiddiol o Rosmeirch, Sir Fôn, mae Leah ac Eifion, ei gŵr, wedi ymgartrefu yn Nyffryn Clwyd ers dros 25 mlynedd bellach.

Yn enwog am ei llais godidog a'i pherfformiadau ar deledu ac mewn cyngherddau, mae Leah bellach yn canolbwyntio ar hyfforddi a beirniadu mewn eisteddfodau bach a mawr.

"Ers cychwyn y 60au, dwi wedi mynychu pob Gŵyl Gerdd Dant heblaw un, ac roedd honno'n digwydd bod yn Ninbych ym 1980 - roeddwn newydd eni ein hail ferch, Elysteg ar y pryd!" eglura Leah.

A hithau'n fam i bedwar o blant, Angharad, Elysteg, Ynyr a Rhys, mae Leah'n gadael ei swydd fel athrawes yn Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych, ar ôl 14 mlynedd yr haf yma. Bydd yn cychwyn ar swydd newydd fel Athrawes Fro yn Sir Ddinbych ym mis Medi.

"Mae hi'n fraint ac yn anrhydedd i mi fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Gŵyl Gerdd Dant Dyffryn Clwyd 2008. Wedi bod yn cystadlu fy hun yn yr eisteddfodau cenedlaethol a'r Ŵyl sawl tro, bydd hi'n braf iawn annog a chroesawu pobl o bob cwr o Gymru i ddod draw i gystadlu yn y Rhyl," meddai Leah.

Ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid, Ceredigion y cynhaliwyd yr ŵyl yn 2007 tra'i chynhaliwyd yn Rhosllannerchrugog yn 2006 - a chafwyd lluniau a chanlyniadau ar wefan Lleol i'r Rhos, yma.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý