"Sefydlwyd y clwb yn nhymor 1993/94. Roedd y syniad wedi bod yn fy mhen ers ambell i flwyddyn oherwydd roeddwn wedi bod yn byw yng Nghaerdydd am wyth mlynedd ac wedi chwarae i Glwb Pêl Droed Cymric yn y fan honno.
"Ar ôl symud i fyw i ardal Treffynnon nes i chware i Helygain yn gyntaf ac yna hefo tîm Mostyn Albion.
"Wedi i mi ymuno â Mostyn Albion, cefais afael ar dri arall i ymuno â'r clwb ac roedd 'na bedwar ohonom yn Gymry Cymraeg ac roeddwn i'n gweld bod ambell i chwaraewr fan hyn a fan draw yn siarad yr iaith.
"Yr oeddwn yn meddwl yn siŵr y byddwn yn cael digon i greu tîm.
"Fe es at Alun Coetmor Jones, oedd hefyd wedi bod yn chwarae i'r Cymric yng Nghaerdydd, a gyda fo a finnau hefo tri o feibion yr un, ein syniad oedd creu clwb Cymraeg ar eu cyfer nhw.
"Y bwriad oedd y byddem ni, gobeithio, yn cael chwaraewyr o ysgolion Glan Clwyd a Maes Garmon a bydde hogia' yn dod atom er mwyn chwarae yn Gymraeg.
"Y pwrpas oedd cael yr hogia' i siarad Cymraeg. Mae yna gymdeithasau Cymraeg ond fawr ddim i'r ifanc.

"Daeth criw da i'r nosweithiau ymarfer cyntaf ac fe sefydlwyd y clwb. O fewn tymor neu ddau roedd gennym gymaint o chwaraewyr bu'n rhaid i ni sefydlu ail dîm.
"Alun oedd yn gofalu am y tîm cyntaf a minnau'n gofalu am yr ail dîm ond ers pum neu chwe mlynedd rydym yn ôl lawr i un tîm.
"Rydym yn chwarae pob dydd Sadwrn yng Nghynghrair Clwyd. Rydym wedi bod yn y Brif Adran ond ar hyn o bryd rydym yn yr Ail Adran.
"Erbyn hyn rydym yn chwarae ein gemau cartref yn Llanelwy, cae Ysgol Glan Clwyd, ond wedi chwarae ar gaeau eraill hefyd.
"Yng Nglan Clwyd yr ydym yn ymarfer bob nos Fawrth ar y cae pob tywydd rhwng 8.30pm a 9.30pm.
"Mae wedi rhoi cyfle i'r criw wneud ffrindiau, gyda llawer o gyfleoedd i gymdeithasu.

"Mae yna gymdeithas fach wedi codi yn sgil Y Glannau a dwi'n credu bod 150 o hogia' wedi chwarae i'r clwb dros y blynyddoedd.
"Y peth mwyaf yw bod yr hogia' yn chwarae pêl-droed ac yn mwynhau'r gêm.
"Ac er mae rhywbeth tuag at yr iaith oedd sefydlu'r clwb, mae'r gêm yn bwysig hefyd ac rydym eisiau ennill pob gêm."