Cafodd y gêm bêl-droed gyntaf yn Y Rhos ei chynnal ar ddydd Sadwrn, Chwefror 3 pan gollodd tîm Neuadd Llannerchrugog o 1-0 yn erbyn tîm o Weision Sifil o Wrecsam, a oedd yn cynnwys nifer o chwaraewyr rhyngwladol.
Doedd hyd yn oed colli'r rhan fwyaf o'r gemau cynnar ddim yn ddigon i dorri calon y pentrefwyr ac fe chwaraewyd pêl-droed byth ers hynny.
Bu nifer o dimau yn cynrychioli'r pentref: Rhosllannerchrugog, Rhos Olympic, Rhos, Levers, Rhos, Rhos Comrades, Rhos Eagle Wanderers, Rhos Early Closes, Rhos Rangers, Rhos United, Rhos Church, Rhos Albino, Rhos Victoria, and Rhos. Athletic, Rhos Chums, Ponciau Welfare, Llannerch Colts ac yn fwy diweddar, Rhos Aelwyd.
Pan sefydlwyd Cynghrair y Welsh League ym 1890, roedd cyfraniad Mr Cotterill o Bronwylfa, Rhos yn un pwysig. Aelodau gwreiddiol y gynghrair oedd Rhos, Bangor, y Derwyddon, yr Wyddgrug, Rhostyllen Victoria, Rhyl, Rhiwabon ac Westminster Rovers o Wrecsam.
Yn ystod degawd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bu Rhos yn cystadlu'n rheolaidd yng Nghwpan FA Lloegr ac ynghyd a thîm Y Waun, nhw oedd yr unig ddau glwb o Gymru fu'n cymryd rhan yng nghystadleuaeth cyntaf Cwpan Amatur Lloegr ym 1894.
Daeth llwyddiant cenedlaethol i'r Rhos am y tro cyntaf ym 1898 wrth i lowyr tîm y Rhos Eagle Wanderers drechu tîm o werthwyr tybaco o'r Amwythig, Singleton and Coles, o 6-1 yn rownd derfynol Cwpan Amatur Cymru yn yr Waun.
Wedi chynnig aflwyddiannus ar ôl troi'n broffesiynol yn ystod y 1900au cynnar, yn rownd derfynol Cwpan Amatur Cymru ym 1912 bu i dîm Rhosllannerchrugog guro Summerhill o 2-1 mewn ail chwarae ar y Cae Ras yn Wrecsam.
Yn nhymor cyntaf Adran y Gogledd Cynghrair newydd y Welsh League ym 1921-22, sicrhaodd Y Rhos y 'dwbwl' ond dirywio wnaeth y tîm proffesiynol gyda dirwasgiad y 1920au yn cael effaith mawr ar gymunedau glofaol gogledd Cymru.
Y tîm nesaf i gynrychioli'r pentref oedd y talentog Llannerch Celts yn ystod y 1930au. Yn ogystal ac ennill sawl chynghrair a chwpan, bu i nifer o chwaraewyr y Celts gynrychioli tîm amatur Cymru.