Wedi'i leoli ar Stryd y Castell yn Rhuthun mae llawer o'r tÅ· gwreiddiol yn dal i oroesi wrth galon yr adeilad presennol sy'n llawer mwy - byddai perchnogion dros y blynyddoedd wedi ychwanegu llawer o estyniadau.
Defnyddiwyd y tŷ yn barhaus fel cartref gan nifer o deuluoedd dros y canrifoedd tan 1984 pan werthwyd y tŷ i Gyngor Sir Clwyd. Ceisiodd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol ddychwelyd y tŷ i'w 'gyflwr canoloesol' ond aeth y gwaith adfer i drafferthion ac ni chafodd ei orffen. Yn 1999 cymrodd Cyngor Sir Ddinbych berchnogaeth y tŷ'n ôl. Gydag arian Amcan 1 yr Undeb Ewropiaidd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cadw a Chyngor Tref Rhuthun, dechreuodd y gwaith o'i adfer yn 2004 a thair blynedd yn ddiweddarach, agorodd y tŷ i'r cyhoedd am y tro cyntaf.
Gyda diolch i Gyngor Sir Ddinbych.
 |