ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Wyddgrug
Genod Droog Gigs y Steddfod
Elain Wyn o Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, sy'n edrych ymlaen at brif gigs Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint 2007 ar gaeau Pentrehobin ger yr Wyddgrug.
"Pob blwyddyn ceir gigiau llawn bwrlwm a chyffro'r to ifanc yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ac nid yw Eisteddfod Sir y Fflint yn eithriad.

Bydd amryw o fandiau ar lwyfannau Maes B ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi trefnu gigs bob noson yng Nghlwb Rygbi yr Wyddgrug sydd yn cychwyn am 8 yr hwyr.

Mae'r wythnos yn dechrau gyda'r Chiz-feistr, Elin Fflur a'r band lleol Labrinth yn chwarae mewn gig Cymdeithas yr Iaith, ac ym Maes B mae Celt, Nathan Williams a Calansho ar y nos Sadwrn.

Mae'n draddodiad bellach i gynnal cystadleuaeth Brwydr y Bandiau ac eleni mae hi'n digwydd ar y nos Lun a'r nos Fawrth ym Maes B. Ar ddechrau'r wythnos bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno Steve Eaves, Brigyn, Gwyneth Glyn, Y Ffyrc a'r anhygoel Meic Stevens.

Rhag ofn eich bod yn berson sy'n hoffi dewis eich cerddoriaeth, o ganol yr wythnos ymlaen bydd Maes B yn cyflwyno nifer o fandiau ar ddau lwyfan gwahanol. Ar y nos Fercher, bydd Bryn Fôn, Daniel Lloyd a Mr Pinc a Fflur Dafydd a'r Band ar lwyfan 1 ac yn y babell arall bydd Gareth Bonello, gwesteion arbennig a Meic Stevens yn cloi y noson. Mae gan Gymdeithas yr Iaith arlwy arbennig iawn ar y nos Fercher hefyd gyda Pwsi Meri Mew, Gwibdaith, y Cowbois o Ben draw Llyn a Gai Toms yn diddannu.

Uchafbwynt yr wythnos yw'r ddwy noson olaf ym Maes B ac yng Nghlwb Rygbi yr Wyddgrug. Heb unrhyw amheuaeth mae'r trefnwyr wedi llwyddo i gael bandiau gwych i ddod a'r wythnos i ben mewn steil!

Ar y 10fed o Awst, sef y nos Wener, mae Yucatan, Dan Lloyd, Fflur Dafydd a'r anfarwol Bob Delyn a'r Ebillion yn nhref yr Wyddgrug ac ym Maes B bydd Gwyneth Glyn, Cowbois R.B. ac Euros Childs ar un llwyfan a Mr Huw, Y Rei a Sibrydion ar y llall.

Ar ôl y cwrw, y cusanu dieithr a'r chwerthin drwy'r wythnos, beth sydd well na chlywed Frizbee a'r Genod Genod Droog yn perfformio ar lwyfannau Maes B neu gael diwrnod cyfan yn mwynhau cerddoriaeth Gymraeg ar ei gorau yn ystod gig olaf Cymdeithas yr Iaith yng nghwmni Coda, Mattoidz, Cofi Bach a Tew Shady, Derwyddon Dr Gonzo a Radio Luxembourg i gloi.

Mae digonedd o ddewis i chi, felly mwynhewch yn sŵn cerddoriaeth bandiau ifanc, ffres a newydd Cymru ac ym mwrlwm yr hen gewri!"

Gigs eraill

  • Yn ogystal â nosweithiau Maes B a gigs ar lwyfanau amrywiol o amgylch maes yr Eisteddfod, mae nosweithiau Maes C - nosweithiau cerddorol, stand-yp a barddonol - yn cael eu cynnal ar faes carafanau'r Eisteddfod ar stâd Pentrehobin, filltir o dref yr Wyddgrug. Manylion:
    Rhestr Gigs C2
    Maes B -
    Maes C a Chyngherddau'r Pafiliwn -
    Cymdeithas yr Iaith -

    Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol


  • Cyfrannwch

    Tom o Dinbych
    Edrych ymlaen i gigs Cymdeithas yr Iaith. Edrych yn wych.


    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Ffilmiau


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý