ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Anita Jones o'r Bala O'r Bala i Fwlgaria
Roedd Anita Jones ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni i gefnogi ei ffrindiau oedd yn cystadlu mewn gymnasteg, ond mae ei meddwl hi ei hun ar gystadleuaeth bwysig arall sydd ganddi ar y gweill.
Y mis nesaf, mi fydd y ddisgybl 15 oed o Ysgol y Berwyn, y Bala, yn teithio i Fwlgaria i gynrychioli Cymru mewn pencampwriaeth gymnasteg Ewropeaidd ar ôl ennill teitl Pencampwr Prydain mewn Gymnasteg Parau eleni gyda'i chyfaill Rosie Owen.

Enillodd y ddwy ym Mhencampwriaeth Gymnasteg Chwaraeon Acrobatig Prydain yn Stoke-on-Trent ddechrau'r flwyddyn a nhw sydd wedi eu dewis i gynrychioli Cymru yn y cystadleuaethau parau yn Ewrop.

A hithau wedi bod yn gwneud gymnasteg ers pan oedd hi'n chwech oed, i ddechrau yn y Bala, yna yn Nolgellau, mae erbyn hyn yn aelod o glwb llwyddiannus y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog.

Mae ei chwaer hŷn, Delyth, sy'n 16 oed, hefyd yn bencampwr tumbling Cymru. "Mi ddechreuodd mam fynd â ni o gwmpas yn trïo gwahanol bethau, a gymnasteg roedden ni'n ei licio fwyaf," eglura.

"I ennill yn Stoke-on-Trent roedd rhaid inni wneud rwtîn balans a rwtîn tempo - mae'r balans yn golygu gwneud handstands a ballu ar ein gilydd a'r tempo yn golygu bod un yn taflu'r llall i'r awyr a'i dal.

"Fi sy'n dal fel arfer gan mai dim ond unarddeg oed ydy Rosie!

"Roedd wyth pâr yn cael eu dewis o'r rownd gyntaf ac yna'r pâr oedd â'r sgôr uchaf o'r ddau rwtîn oedd y pencampwyr," meddai.

Roedd Anita ar y maes ddydd Llun yn cefnogi ei chyd-aelodau o Glwb y Moelwyn, ond doedd hi ei hun ddim yn cymryd rhan am fod ei harholiadau TGAU ar y gorwel.

Mae hi'n diolch i'w hyfforddwraig Lynda Dodd am ei llwyddiant hi a llwyddiant y clwb, sydd wedi wedi dod yn gyntaf ym mhencampwriaethau Prydain o'r blaen, er mai clwb bach heb fawr o gyfleusterau ydyn nhw.

A'r mis nesaf bydd Anita a Rosie yn edrych ymlaen at fynd ag enw da'r clwb ymhellach fyth pan fyddwn nhw, ynghyd â chwech arall o'r gogledd, yn cynrychioli eu gwlad ym Mwlgaria.

Pob lwc iddyn nhw!



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý