Tisha o Langoed, Ynys Môn: 'Dyma'r tro cyntaf imi ddod i'r Sesiwn Fawr. Mae'n grêt. Weles i'r Super Furries neithiwr ac yfed gormod o lagyr. Roedd Ummh yn grêt neithiwr hefyd - a'r rapio. Dwi'n aros yn y maes pebyll; mae'n iawn ond mae 'na lot o bobl swnllyd, meddw yno a chwffio. Dwi'n edrych ymlaen i weld Drumbago heddiw a chael peint arall!'