"Mae pethau wedi mynd yn wych a dweud y gwir, mae'r nos Wener wedi bod yn ffantastig a da ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn am y GLC.
"Mae'n broses hir trefnu pwy sy' am chwarae yn yr ŵyl. Mae rhai yn amlwg ac yn dewis eu hunain, ond wedyn mae cannoedd o CDs yn llythrennol yn dod i'r tŷ acw gan fandiau ac asiantau o ledled y byd. Mae'n broses wedyn o wrando arnynt - efo rhai mae clywed un gân yn ddigon i benderfynu. Freshlyground er enghraifft - ges i'r CD, ac wedyn y DVD ohonyn nhw'n perfformio'n fyw a phan welais hynny roedd yn rhaid i mi eu cael nhw yma.
"Da ni'n fyw ar y we ar y Sadwrn y tro yma - mae datblygiadau newydd bob blwyddyn, 'da ni'n trïo gwneud rhywbeth gwahanol a ffresh bob blwyddyn.
"Mae 'na adegau pan dwi'n meddwl 'o, na' wrth feddwl am drefnu'r ŵyl ond does dim fel y buzz gawn ni dros y penwythnos.
"Ond dwi yn edrych ymlaen at y band olaf, cael peint a rhoi fy nhraed i fyny!"