ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Mei a Fflos o'r Sibrydion Barn y bandiau
Er gwaethaf y mwd, roedd gŵyl Wakestock 2009 yn un llwyddiannus i fandiau'r ardal. Dyma sylwadau rhai wrth iddynt dreulio amser tu cefn i'r llwyfan.

Roedd y Sibrydion yn awyddus i chwarae caneuon o'u CD newydd ar Sadwrn yr ŵyl.

"Rydym wedi gwneud albwm Saesneg ac mae o wedi gwerthu allan ar ôl arolwg da yn y Times," meddai Fflos o'r band. "Yr un broses yw recordio yn y Saesneg, er mae'r gigs lawr yn Llundain ychydig yn wahanol."

Ond ddim mor wahanol a chwarae mewn gŵyl yn Ffrainc. "Ddaru ni chwarae yng ngŵyl Geltaidd L'Orient a doedd y gynulleidfa ddim yn siarad o gwbwl yn ystod ein perfformiad. Fa'na, maen nhw'n gwrando ar bopeth ac os maen nhw'n hoffi o, maen nhw'n rili hoffi o; ac os ddim maen nhw'n gadael i chi wybod!

"Maen nhw'n gwrando ar gerddoriaeth fyw yn rheolaidd, nid fel yma; mynd allan, cael diod gyda band yn y cornel."

Ond mae bod yn nôl mewn ŵyl yng Nghymru yn dda. "Mae'n grêt cael bandiau Cymreig 'mlaen," meddai Fflos. "Yn enwedig mewn ardal reit Gymreigaidd - byse fo ddim yn iawn peidio â'u cael nhw."

Roedd Yr Ods - band o ochrau Bangor, Llanberis a Llanystumdwy - newydd chwarae gŵyl enfawr Glastonbury cyn Wakestock.

"Roedd o'n hollol briliant," meddai Griff Lynch, canwr y band. " Roeddem ar lwyfan cylchgrawn Q efo dorf o ryw chwe chant - mae'r lle yn anhygoel o fawr."

Cowbois Rhos Botwnnog Efallai'r band mwyaf lleol i chwarae yn Wakestock oedd Cowbois Rhos Botwnnog. Wrth i rai bandiau eistedd mewn fan am saith awr i gyrraedd y maes, 'mond siwrne deng munud oedd gan fois Pen Llyn. "Da ni'n gwybod y short cut yma," meddai Aled Huws o'r band. "Mae 'na lon cul sy'n dod lawr at safle'r bandiau, gan osgoi'r holl draffig!"

Roedd cael chware prif lwyfan yr ŵyl yn dra wahanol i'r noson gynt. "Mi aeth o'n grêt heddiw; dipyn o naid o chwarae mewn sgubor ym Machynlleth neithiwr!" meddai Aled.

"Mae'n wych, ar ôl chwarae gigs mewn tafarndai a gorfod symud popeth ein hunain, i gael roadies sy'n gwneud popeth i chi."

Mae Aled yn disgrifio miwsig y band, sydd wedi bod efo'i gilydd ers 2006, fel 'roc a rôl efo dylanwad canu gwlad fodern". Cynt, roedd dau aelod o'r band - Aled a'i frawd Dafydd - wedi ffurfio grŵp Eryr, cyn i'w frawd arall, Iwan, dechrau sgwennu caneuon. "Ddaru ni sylweddoli fod o lot gwell na'r ddau ohonom ni'n sgwennu, felly ni sy'n canu stwff fo rŵan," meddai Aled.

Ddaru pedwerydd aelod y grŵp, Llŷr, dim ond chwarae ei gig gyntaf gyda'r Cowbois y noson cyn Wakestock. "Ddaru o ddysgu'r set heb lawer o bractis - bach o 'baptism of fire'", meddai Aled.

Er hynny, roedd yna ddigon yn dawnsio yn y mwd ar y dydd Sul yn mwynhau eu cerddoriaeth.

Dafydd o'r Promatics A beth am Y Promatics, y band a lwyddodd ennill cystadleuaeth i berfformio ar lwyfan y DJ Huw Stephens ar Sul yr ŵyl?

"Roedd o'n wych," meddai Dafydd Foxhall, drymiwr y band. "Roedd cael sustem sain arbennig o dda yn grêt, ac mi gawsom ni groeso gwych gan y dorf. Gig anhygoel i ni."

Ddaru'r band gwneud y gorau o'r tywydd a'r slot y cawsant i berfformio. "Roedd y tywydd wedi gwella erbyn y Sul ac felly roedd pawb efo mwy o wen ar eu hwynebau! Hefyd, nid oedd dim ar y prif lwyfan na'r babell fawr goch pan ddaru ni gychwyn, felly ddaru lot o bobl ddod draw atom ni - Cymry a rhai Di-Gymraeg - am ddawns yn y mwd!"

Rhagor o Wakestock.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý