ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Alun Vaughan yn dod dros y llinnell derfyn yn Ras yr Wyddfa Ras yr Wyddfa
Daeth pobl Llanberis allan yn eu cannoedd i wylio 450 o athletwyr yn cystadlu yn y ras flynyddol i gopa'r Wyddfa ac yn ôl ddydd Sadwrn, 24 Gorffennaf, a gweld hogyn lleol yn croesi'r llinell derfyn yn y trydydd safle.
  • Lluniau

    Ian Holmes o Loegr oedd enillydd y ras 10 milltir gydag amser o 1:05:38 ond daeth Alun Vaughan o Lanberis yn drydydd gydag amser o 1:06:12 - y Cymro cyntaf i groesi'r llinell eleni.

    Mae Ras yr Wyddfa yn cael ei disgrifio fel un o'r rhai mwyaf anturus yn Ewrop ac fe ddenodd gystadleuwyr o bob cwr o'r cyfandir eto eleni.

    Roedd yno dimau cryf o'r Eidal, Ffrainc a Slofenia yn ogystal â holl wledydd Prydain yn ôl y trefnydd, Jayne Lloyd.

    Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y bydd y ras yn denu mwy o gystadleuwyr byd-enwog y flwyddyn nesaf: "Y peth mwyaf am y ras ydy cefnogaeth y bobl leol," meddai.

    Hywel Gwynfryn yn cyfweld Alun Vaughan ar groesi'r llinell derfyn"Roedd y nifer o bobl oedd yno yn wych ac mae llawer o bobl o dramor yn dod er mwyn profi'r awyrgylch.

    "Mae pobl Llanberis mor falch o'u tre ac o'r ras - nhw sy'n gwneud y digwyddiad mewn gwirionedd.

    "Roedd ganddon ni bencampwr y byd yn cystadlu eleni ac rydyn ni'n gobeithio denu mwy o'r athletwyr mawr rhyngwladol y flwyddyn nesaf."

    Mae Alun Vaughan yn rhedeg i glwb Eryri Harriers ac wedi cystadlu sawl gwaith o'r blaen ond eleni oedd ei amser gorau.

    "Wnes i ddim disgwyl rhedeg mor sydyn," meddai.

    "Ond dwi'n hapus iawn efo'r amser a'r safle, trydydd. Grêt."

    Daeth y Cymro Tim Davies, enillydd y llynedd, yn bedwerydd a'r Ffrancwr, Julien Rancot, yn ail.

    Roedd cyflwynydd Radio Cymru, Stephen Edwards - y Weiran Gaws - yn rhedeg eto eleni ac roedd yn gobeithio gwella ar ei amser o 1 awr, 50 munud a 35 eiliad yn 2003.

    Stephen Edwards ar yr Wyddfa.Er iddo dorri munud oddi ar ei amser, dywedodd ei fod braidd yn siomedig gyda'i berfformiad a'i fod wedi gobeithio gwneud yn well: "Mi gwnes i hi i'r copa yn iawn ond mi gymerais yn hirach nag oeddwn i wedi ei obeithio i ddod i lawr.

    "Dwi'n credu mod i'n hen ddigon ffit yn gorfforol ond ddim wedi paratoi yn iawn yn feddyliol."

    Ond mae'n benderfynol y gall wneud yn well eto y flwyddyn nesa: "Dwi am gael hoe am ychydig i ddod dros y ras wedyn mi fydda i'n dechrau trênio eto."

    Roedd ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru yn darlledu'n fyw o'r ras ar y diwrnod fel rhan o Daith Haf Radio Cymru gyda Meinir Gwilym, Max N a Gogz yn diddanu'r gynulleidfa yn Llanberis.

    Roedd cyfle hefyd i gwrdd â rhai o hoff gymeriadau Planed Plant Bach gan gynnwys Sali Mali, Sam Tân, SuperTed a chymeriadau bywiog cyfres y ÃÛÑ¿´«Ã½, y Bobinogi.

  • Mwy am ymweliad y daith haf â'r gogledd

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý