ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Sîn Roc

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Acoustique Acoustique
Efallai eu bod nhw'n swnio fel petaen nhw'n chwarae mewn clwb myglyd ar b'nawn glawog ym Mharis ond o Ddyffryn Ogwen y daw'r band jazz Acoustique. Llais melfed Lleuwen Steffan sy'n ateb ein cwestiynau.
Aelodau
Dwi'n canu (Lleuwen), mae Jochen Eisentraut ar y piano ac Owen Evans sy'n chwarae'r bâs dwbl.

O lle
Dyffryn Ogwen

Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Yn 2001.

Pam ddaru chi ffurfio band?
Cyfle gwych i weithio a dysgu a chael hwyl gyda chyd-gerddorion!

Gig gwaetha
Pan nad oes neb yn gwrando neu pan 'dwi wedi yfed gormod o win!

Gig gorau
Yn y clwb jazz Café Universel ym Mharis neu gig gyda Steve Eaves a'i fand yn Theatr Gwynedd.

Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Rydan ni'n hoffi Ella Fitzgerald, Joni Mitchell, Thelonious Monk, James Taylor, Diana Krall a llawer mwy.

Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Mewn llonyddwch fel arfer.

Be ydych chi'n ei wneud ar ôl gig?
Rydan ni'n sgwrsio, chwerthin, wedyn cysgu.

Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Tom Waits.

Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Yn sicr. Mae geiriau ein caneuon (yn enwedig y rhai newydd) yn trin a thrafod rhyfeddodau cymeriadu ardal. Dwi'n licio meddwl bod Dyffryn Ogwen yn rhan ohona i a 'mod i yn rhan o Ddyffryn Ogwen. Faswn i ddim yn fi a faswn i'm yn canu am yr un petha taswn i o unrhyw ardal arall.

Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Cath sgleiniog ddu!

O lle ddaeth yr enw?
Syniad Jochen oedd yr enw. Roedden ni'n gwneud sawl gig ym Mharis ar y pryd ac yn dechrau cael dylanwad Ffrengig ar ein cerddoriaeth felly penderfynom y buasai'n braf cael enw i adlewyrchu hynny.

Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Jazz/pop i oedolion.

Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen (Pesda) neu Neuadd Ogwen (Pesda) neu yn Theatr Gwynedd eto.

Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Meddwl tybed sut dwi'n mynd i ateb y cwestiwn 'ma!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý