ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Sîn Roc

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Anhysbys Anhysbys
Melodig, hafaidd, rockin' - dyna ddisgrifiad Ll?r Lewis o'i fand - er gwaetha'r gig hunllefus pan aeth popeth o'i le!
Aelodau
Alun Gwilym ar y gitâr, Rhodri Jones ar y gitâr arall, Prysor Aled ar yr allweddellau, Sara Tomos ar y drymiau a finna'n canu ac yn chwarae'r bâs (Ll?r).

O lle
Mae pawb yn dod o ardal Caernarfon.

Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Tua tair neu bedair blynedd yn ôl. Fi ac Alun wnaeth gychwyn - fo ar y dryms a fi'n canu. Ro'n i'n ffrindiau efo Sara ers pan o'n i'n fach ac roedd Alun yn fêts efo Rhodri a Prysor. Rydan ni wedi bod yn fand go iawn ers tua tair blynedd.

Pam ddaru chi ffurfio band?
Roedden ni gyd yn sbïo i fyny ar blant h?n na ni yn yr ysgol - bandiau fel y Dipsomaniacs a Quidest. Roedd ganddon ni i gyd yr un tâst mewn miwsig - a heb lawer i'w wneud, felly ddaru ni benderfynu cychwyn band!

Gig gwaetha
Mae hynna'n ddigon hawdd - yr wythnos diwethaf! Am ryw reswm, 'doeddwn i ddim yn teimlo gant-y-cant a doedd Sara ddim yn gallu dod, felly doedd 'na ddim dryms ac er mai set acwstig oedd hi, roedd hi'n anodd heb y beats.

Felly mi ddaru ni droi i fyny yn Nh? Newydd, Sarn, a fel arfer 'da ni'n cael criw reit dda fan'no ond roedd Wakestock ymlaen, felly doedd 'na ddim llawer yno.

Wedyn ar ôl cyrraedd ddaru ni ffeindio ein bod ni wedi gadael y meicroffôns adref felly roedd yn rhaid inni ddefnyddio'r rhai ar gyfer y bingo a'r cwis. Mi wnaeth llinyn un o'r gitârs dorri yn ystod y gân gyntaf ac mi wnaethon ni chwarae'n wael a ffraeo ynghanol y set - aeth popeth sy'n gallu mynd yn anghywir, yn anghywir! Mi wnaethon ni ddysgu gwers dwi'n meddwl!

Gig gorau
O ran cael teimlad da, 'dwi'n meddwl ei bod yn well ganddon ni chwarae gig lleol efo pawb yn ein cefnogi. Felly o ran teimlad gwych o fewn y band, un ai gig yng Ng?yl Dros y Wal, Glynllifon, pan 'nath lot o'n ffrindiau a'n teulu ni ddod, neu noson lawnsio'r CD yn Cofi Roc.

Mae chwarae gigs rownd ysgolion yn brofiad da hefyd - mae'r ymateb yn wych - maen nhw jest yn sgrechian a chlapio!

Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Mae'n dda fod pawb yn hoffi pethau gwahanol, er fod gan pawb yr un tâst ar y cychwyn. Dwi'n hoffi pethau retro o'r chwedegau, fel y Beatles, Beach Boys a'r Kinks. Mae Alun yn hoffi'r Manics ac Oasis, ac mae'r Thrills yn ddylanwad mawr arnon ni hefyd, yn enwedig ar y gân Twyni Tywod.

Roedd Big Leaves yn ddylanwad mawr hefyd. Mae 'na fwlch yn y sîn Gymraeg ar ôl i Big Leaves orffen ac mi faswn i'n hapus i'n gweld ni'n mynd i'r un cyfeiriad â nhw yn gerddorol.

Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Da ni gyd yn chipio i mewn fel arfer. Mi fydd un person yn cael syniad am gân wedyn yn chwarae'r gân i'r band, falle ar ffurf demo syml, i weld be mae pawb yn ei feddwl. Ond mae pob aelod yn rhan o'r broses.

Be ydych chi'n ei wneud ar ôl gig?
Mae'n anodd, gan mai dim ond un o'r band sy'n dreifio. Fel arfer mi fyddwn ni'n pacio stwff mewn i'r car a mynd am sesh!

Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
David Brent o'r Office - fyse fo'n gwneud i mi chwerthin gymaint mi faswn i'n tagu ar fy nghornflakes!

Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Do, yn bendant. Roedd bandiau fel Big Leaves o gwmpas pan oedden ni'n cychwyn ac roedden ni gyd yn sbïo i fyny atyn nhw. Dwi'n cofio un tro mynd i'w pestro nhw ar ôl gig yn y ganolfan hamdden - ro'n i mor ifanc a naïf a rili eisiau bod fel nhw, a hwythau wedi bod trwy'r un ysgol â ni.

Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Mochyn daear! Ma 'na wefan efo moch daear yn dawnsio arni ac mae Prysor yn dawnsio'n union fel y moch daear yna - fo di'n badger mawr ni, masgot y band!

[Ewch i i weld am be' maen nhw'n sôn! Dyw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol].

O lle ddaeth yr enw?
Roedden ni wedi bod trwy gymaint o enwau - wedi treulio gwersi cyfa' yn peidio gweithio, ond yn gwneud enwau i fyny ar ddarn o bapur! Roedden nhw un ai'n wirion neu wedi eu defnyddio'n barod.

Wedyn un diwrnod, roedden ni gyd yn ista ar ffens yr ysgol, a dywedodd Rhodri ein bod ni'n fand heb enw. "Ia", medda fi, "y band anhysbys" - a dyna fo! Mae o'n wahanol a mae 'na ddirgelwch ynddo fo.

Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Melodig, hafaidd, rockin'.

Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Naill ai 'sgubor mawr ar fferm Prysor neu Gastell Caernarfon.

Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Cysgu a pacio ar gyfer wythnos o gampio yn y steddfod, gan obeithio bydd y tywydd yn neis!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý