ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Sîn Roc

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Bechdan Jam Bechdan Jam
Mochyn diog iawn ydy Bechdan Jam meddai Osian Rhys sy'n meddwl am ffyrdd o osgoi ei wers Saesneg tra'n ateb ein cwestiynau.
Aelodau
Dwi'n canu (Osian) ac yn chwarae'r gitâr, mae Iwan Jones ar y bâs a Chris Gafey ar y drymiau.

O lle
Dwi'n dod o Lanystumdwy, mae Iwan o Gricieth a Chris o Borthmadog.

Pryd wnaethoch chi ffurfio?
2002.

Pam ddaru chi ffurfio band?
Rydan ni i gyd yng Ngholeg Meirion Dwyfor efo'n gilydd ac yn hoffi'r un math o fiwsig, felly mi ddaru ni benderfynu cael at ein gilydd a ffurfio band.

Gig gwaetha
Dim eto!

Gig gorau
Nos Sadwrn ym Maes B yn Eisteddfod Meifod.

Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Foo Fighters, Green Day, Jimmy Hendrix, Metalica a'r Big Leaves.

Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Fi fydd yn meddwl am ryw riff gitâr a'r geiriau. Wedyn mi fyddwn ni'n dod at ein gilydd i jamio, a bydd y cân yn dod at ei gilydd yn eithaf cyflym wedyn.

Be ydych chi'n ei wneud ar ôl gig?
Yfed! Ymuno efo pawb arall a mwynhau ein hunain.

Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Dave Grohl a Jack Black, ar ôl gigio efo nhw ac yfed trwy'r nos!

Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Do, byswn i'n dweud. Yn amlwg, mae'r iaith, gan ein bod yn canu yn y Gymraeg. Hefyd, dwi'n 'sgwennu am bobl dwi'n eu hadnabod o'r ardal, ac am sut dwi'n teimlo - os ydi pethau'n mynd yn iawn neu'n anghywir!

Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Mochyn diog iawn!

O lle ddaeth yr enw?
Does yna ddim stori fawr. Roeddwn ni gyd jest yn taflu enwau o gwmpas un diwrnod. Roeddwn i yn meddwl am enwau bwyd, ac mi ddywedais i Bechdan Jam - ac roedd o'n swnio'n c?l.

Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Punk, gwyllt, bywiog.

Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Castell Caernarfon neu Glastonbury.

Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Meddwl sut i osgoi gwers Saesneg erbyn tri o'r gloch prynhawn ma!


Cyfrannwch

Teleri Glyn o Star
Bechdan Jam yn swpyr dwpyr cwl!! Clwad bod gig cymdeithas chi di bod yn wych yn yr Eisteddfod, siomedig iawn bod fi 'di methu dod! Roc on!

Cat James o Benrhosgarnedd, Bangor
Dwi'n nabod Osh es chydig o flynyddoedd o ysgol glanaehtwy a mi nesh gyfarfod Iwan a Chris haf dwytha, hogia cwl iawn a ma'r band yn gret, daliwch ati hogia! xxx

Hollie o Porthmadog
Mae Bechdan Jam yn cwl ac mi ydw i yn nabod Osian ac mae Chris yn gweithio hefo fy nhad. Mae'r band yn un o'r rhai gorau Cymreig erioed yn fy marn i.

Thomas Tudor o Pwllheli
Mae Bechdan jam yn cwl, mae Iwan yn gefndar da i fi. Gwnewch eich gorau bois!!!

Mathew Morris o Pwllheli
Ma' Bechdan Jam yn un o'r bandiau Cymraeg gora' dwi erioed di cl'wad. Roc on bois!!!

Wayne o Caerfyrddin
Hei Osian, Wayne yma o maes B. Cool site. Gweld chi cyn bo hir.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý