ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Sîn Roc

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cabalatchio ym mrwydr y bandiau Radio Cymru Cabalatchio
Yn ôl Simon Kalavusz, mae Blaenau'n lle boncyrs, yn union fel ei fand. Dewch i adnabod un o grwpiau newydd y sîn roc a gyrhaeddodd rownd olaf Brwydr Bandiau C2 a Mentrau Iaith Cymru 2004.
Aelodau
Andrew Cockrell ar y gitâr, Karl Hall ar y bâs, Orren O'Neil ar y dryms a fi'n canu (Simon).

O lle
Blaenau.

Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Tua Ionawr/Chwefror 2004.

Pam ddaru chi ffurfio band?
Oherwydd y Gwallgofiad yn Blaenau - prosiect lle gall unrhyw un droi i fyny i ymarfer, felly ddaru ni benderfynu cymryd mantais a ffurfio band.

Gig gorau
G?yl Rhuthun - roedd o'n grêt o brofiad.

Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Dwi'n licio Bob Marley, Anweledig, Blink-182 - lot o bobl. Mae Orren yn licio Slipknot a Karl yn licio miwsig clybio.

Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Fi sy'n sgwennu. Fel arfer, daw'r geiriau'n gynta wedyn mi fydda i'n gwneud y miwsig i fynd efo nhw.

Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Christina Aguilera.

Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Do, gan fod y lle yn boncyrs - mae ein caneuon i gyd yn boncyrs hefyd!

Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Ci - mae c?n yn nuts ac yn od!

O lle ddaeth yr enw?
Hogia Anweledig wnaeth roi'r enw i ni. Dwi'n meddwl ei fod o'n golygu rhywbeth braidd yn ddrwg ym Mangor!

Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Nuts, hwyliog, swnllyd.

Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Yn y Sesiwn Fawr - 'da ni eisiau chwarae fa'na nesa.

Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Ar y ffordd i'r gwaith. Dwi newydd adael ysgol a dwi'n gweithio fel sgaffaldiwr.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý