ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Sîn Roc

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Melys Melys
Mae Andrea Adams o Melys wedi gwireddu breuddwyd yn barod drwy aros yn nh? John Peel. Mae hefyd yn dweud fod y band yn debyg i 'sloth' ac yn mynnu cael Creme Eggs yng nghefn y llwyfan.
Aelodau
Fi (Andrea), Paul Adams, Gary Husband a Richard Eardley.

O lle
Betws-y-coed.

Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Ffufiwyd Melys yn 1996, ac mi ddaru Rich ymuno efo ni yn 1999.

Pam ddaru chi ffurfio band?
Pan ddaeth fi a Paul yn gwpl, mi wnaethon ni ddechrau sgwennu cerddoriaeth efo'n gilydd. Doedd yna ddim llawer o reswm, dim ond ein bod ni awydd recordio.

Gig gwaetha
Www, ymmm, un o'n gigs cynta ni, jest am ein bod ni mor nerfus! Dwi'n cofio un yng Nghaerdydd. Roedd dyn A&R o label recordiau wedi gyrru'r holl ffordd o Lundain i wrando arnon ni - mi roedd o wedi cymryd chwe awr oherwydd damwain ar y ffordd! Ac mi aeth popeth yn anghywir gyda'r keyboard, a bu'n rhaid i ni roi i fyny ar ôl dim ond tair cân. Roedd o'n ofnadwy.

Gig gorau
Yn Hydref 1999 yng Nghaerdydd ar gyfer raglen John Peel ar Radio 1. Roedd o'n ffantastig! Hefyd, clwb Paradiso yn Amsterdam.

Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Rydan ni'n gwrando ar lot o fandiau o lefydd hollol wahanol. Dwi'n ffan mawr o bobl fel Leonard Cohen, mae Paul wedi tyfu fyny yn yr 80au ac felly yn hoffi pethe o'r adeg yna. Nes i dyfu fyny efo Bucks Fizz! Ond mae Melys wedi cael ei ddylanwadu gan lot o fandiau gwahanol.

Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Rydyn ni'n sgwennu lot efo'n gilydd. Ond Paul ydi'r un sy'n meddwl am y tiwns, mwy neu lai.

Be ydych chi'n ei wneud ar ôl gig?
Mae'n dibynnu lle ydan ni. Pan 'da ni ym Mhrydain, rydan ni jest yn mynd yn ôl i'r gwesty, dechrau yfed, a dadansoddi'r gig - Trafod popeth aeth yn anghywir! Ond 'da ni'n cael hwyl hefyd. Os ydan ni'n chwarae yn Ewrop, dwi'n hoffi aros ar ôl y gig i fwynhau y pethau da ni'n eu cael am ddim. 'Dwi wastad yn gofyn am Creme Eggs, ond dwi mond yn eu cael nhw yn ystod y Pasg. Mae'r bechgyn jest yn ddiflas ac yn gofyn am lagyr!

Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Da ni wedi rhannu cornflakes efo dyn ffantastig yn barod - John Peel. Mi wnaethon ni aros yn ei d? fo ar ôl recordio caneuon i'w raglen. Roedd ei gartref o'n wych, gyda'i blant ym mhob man, a Sheila ei wraig yn coginio i bawb.

Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Do. Mae ganddon ni stiwdio yn Betws (Stiwdio Sylem). Mae pobl sy'n byw mewn pentrefi bach yn cael eu hysbrydoli gan yr holl straeon sy'n hedfan o gwmpas.

Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Sloth, gan ein bod ni mor ddiog!

O lle ddaeth yr enw?
Roedden ni'n rhedeg cwmni hyrwyddo o'r enw Sweet Emotions, ac felly ddaru ni ddefnyddio'r Gymraeg amdano, i geisio tynnu sylw at y cwmni hefyd!

Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Electro pop.

Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Chwarae ar gopa'r Wyddfa.

Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Rydyn ni ar ganol symud t?, felly dwi'n pacio!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý