ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Sîn Roc

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pheena Pheena
Lee Ryan o Blue ydy dyn delfrydol genod Pheena. Mae Sara Roberts (ar y chwith) hefyd yn datgelu beth yw'r cysylltiad rhyngddyn nhw a chwmni petrol o Sbaen.
Aelodau
Fi (Sara), Ceri Bostock a Tesni Jones.

O lle
Sara o Benllech, Ceri o Landwrog a Tesni o Fae Colwyn.

Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Yn 2002.

Pam ddaru chi ffurfio band?
Roedd Ceri a finnau yn gwneud cwrs perfformio ym Mangor. Mi gawson ni gyfweliad ar gyfer band pop newydd, a chwrdd â Tesni yr adeg honno. Mi gafodd pawb amser teg o flaen y beirniaid - nid fel Pop Idol ar y teledu!

Gig gwaetha
Does yna ddim gig gwaetha a dweud y gwir. Rydan ni'n ymarfer gymaint cyn perfformio, mae popeth yn mynd yn iawn fel arfer.

Gig gorau
Peterborough diwedd 2003 efo Blue a Liberty X o flaen 15,000 o bobl!

Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Meinir Gwilym, Caban, Celt, Christina Aguilera, Alicia Keyes, Blue - lot fawr o rai gwahanol.

Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Ar y funud, rydan ni'n 'sgwennu ein caneuon ein hunain. Ond hefyd mae Rob Reed a Tina Murphy yn cyfansoddi rhai ar ein cyfer ni, a mi fydd Caryl Parry Jones yn eu cyfieithu i'r Gymraeg.

Be ydych chi'n ei wneud ar ôl gig?
Rydan ni wedi blino gymaint rhan fwyaf o'r amser, da ni'n mynd yn syth adref. Ond mi ddaru ni fynd i'r parti ar ôl y gig efo Blue!

Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Lee Ryan o Blue! (mae Ceri a Tesni yn cytuno)

Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Mae Tesni a minnau wedi bod yn canu ers pan oedden ni tua deng mlwydd oed, mewn Eisteddfodau a ballu. Dydi Ceri ddim wedi bod yn canu ers yn hir, ond mae hi'n mwynhau.

Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Cath seductive!

O lle ddaeth yr enw?
Roedden ni eisio rhywbeth i'w ddefnyddio yn Gymraeg a Saesneg. Mae ein rheolwyr yn Sbaenwyr, ac mae fina yn golygu safon uchel yn Sbaeneg. Ond gan fod yna gwmni petrol efo'r un enw, roedd yn rhaid i ni newid y sillafiad i Pheena.

Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Secsi, ffasiynol, cyfeillgar.

Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Castell Caernarfon - neu ar yr A55! Mi faswn ni'n cael digon o sylw fa'na.

Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Ar fin mynd i siopa efo'r steilydd i chwilio am ddillad newydd.


Cyfrannwch



Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý