ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Sîn Roc

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Vates Vates
"Miwsig ben byrddau" gan griw o broffwydi'r Blaenau. Dewi Prysor sy'n egluro mwy am y band sy'n cymysgu roc, reggae a sga ac yn hoffi popeth o Motorhead i Mozart.
Aelodau
Mae Phil Jones yn drymio, Han ar y bâs, Oz ar y gitâr flaen a 'dwi'na ar y gitâr acwstig ac yn canu.

O lle
Ardal Blaenau Ffestiniog.

Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Tua dechrau 2003.

Pam ddaru chi ffurfio band?
Wel, ddaru ni ffurfio yn wreiddiol pan roeddwn ni yn y coleg yn Aberystwyth tua dechrau 2003. Roeddwn i, Han a Gorwel Roberts efo'n gilydd yno a ddaru ni jest ffurfio mewn sesiwn jamio yn y C?ps.

Wedyn ddaru Phil ddod aton ni o Blaenau i Aber a dyna fo. Ddaru ni gyfrannu i'r CD Y Gwir yn Erbyn y Byd cyn i ni orffen yn y coleg. Ddaru Gorwel aros yn Aber, ond yn handi iawn roedd Oz o gwmpas ac yn gallu chwarae'r gitâr flaen.

Gig gwaetha
Ar y nos Sul yng Ng?yl Car Gwyllt yn Llan Ffestiniog roedden ni'n chwarae gig ar ôl penwythnos braidd yn drwm. Mi wnes i ddisgyn yn ôl dros ddryms Phil efo'r gitâr ar fy mhen. Mi lwyddon ni i gario 'mlaen efo bois y PA yn fficsio'r dryms.

Gig gorau
Y gig gorau oedd y gyntaf un wnaethon ni mewn parti pen-blwydd mewn cwt gwair yng Nghroesor. Roedd Anweledig, Kentucky AFC a Drumbago'n chwarae hefyd ac roedd hi'n un uffar o stompar! Roedd 'na waed ar fy gitâr, 'strings' yn fflio i bobman a'r croen ar drymiau Phil wedi torri. Wedyn ddaru pawb jest neidio ar y stêj a chael un sesiwn jamio fawr.

Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Ar y funud, dwi rîli i fewn i Kentucky AFC. Dwi hefyd yn licio popeth - o Motorhead i Mozart!

Wrth dyfu i fyny roeddwn ni i fewn i roc, ond dwi'n hoffi reggae yn ofnadwy hefyd. Dyna be ydy dylanwadau'r band - roc, reggae a sga hefyd.

Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Hyd yn hyn, fi sy' wedi sgwennu'r caneuon ond mae gan un neu ddau o'r lleill ganeuon ar y gweill hefyd. Jest digwydd bod oedd hi fod gen i ganeuon wedi eu 'sgwennu ers Aber.
Dwi hefyd yn sgwennu rhai newydd tra'n chwarae o gwmpas efo'r gitâr yn y t? ac wedyn yn mynd â nhw at y band i'w polisho nhw.

Be ydych chi'n ei wneud ar ôl gig?
Gwylio'r bandiau eraill a mynd i'r bar.

Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Jamelia. Os nad hi, Ray Mears, y boi syrfeifal efo'i cornflakes - cornflakes mae o wedi eu gwneud ei hun allan o wreiddiau ryw blanhigion o ben y mynydd!

Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Ydy, yn bendant. Mae gan y dre draddodiad o fiwsig erioed, yn enwedig traddodiad reggae a sga, yn ogystal â'r sîn gafodd ei chreu gan Anweledig.

Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Duck billed platipus. Dipyn o bopeth - yn rheibus, ond eithaf diniwed yn y pen-draw

O lle ddaeth yr enw?
Roeddwn i yn astudio hanes yn Aber ac eisiau gwneud rhywbeth allan o'r gair vates. O fewn tri dosbarth yr hen dderwyddon roedd y druides, bardes a'r vates - sef y derwyddon, y beirdd a'r proffwydi. Mae vates yn dod o'r un gair â video, sef 'gweld' - 'y rhai sy'n gweld' ac roedden ni gyd yn hoffi'r enw yna.

Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Miwsig ben byrddau.

Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Bryn Castell - hen gaer Frythonig uwchben Llan Ffestiniog.

Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Ar y ffordd i Fangor i chwilio am DVD sy'n recordio.


Cyfrannwch

Arthur Gwynn
Newydd weld Vates yn Cofi Roc, Caernafron. Chwytho nhw'r to i ffwrdd, fel yr hen ddyddiau yn gwylio'r Pogues - swnllyd, wallgo, doniol ac yn enwedig diffyg danedd!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý