ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Sîn Roc

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Winabego Winabego

Mae ganddo ofn cornflakes ac mae'n breuddwydio am chwarae yn Sbâr Gerlan! Aled y drymiwr sy'n ateb ar ran y band o ardal Bethesda, Winabego.

Aelodau
'Dwi ar y dryms (Aled), Llew yn canu a chwarae'r gitâr, Dyl yn chwarae'r gitâr a Meic P yn chwarae'r bâs.

O lle
Mae Llew, Dylan a finnau yn byw yn ardal Bethesda erbyn hyn ac mae Meic yn ddigartref!

Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Ddim yn si?r iawn - tua haf 2002 ma'n si?r.

Pam ddaru chi ffurfio band?
Mi wnaeth o ddechra' fel ryw fath o fand dychmygol. Roedd ganddon ni'r enw cyn yr aelodau, math o beth! Roedd gan Llew ryw hen gitâr a practice amp bach ac roeddwn i wedi cael gafael ar ryw ddrym cit ceiniog a dima'.

Mi wnaeth ein basydd ni ar y pryd ymuno, ac roedd o'n reit dda o'i gymharu â ni! Felly roedd rhaid i ni drïo'i sortio hi allan i osgoi'r embarassment!

Gig gwaetha
Mi wnaethon ni gig yn Clwb Ifor, Caerdydd ac roedd hi'n ben-blwydd arna' i a Llew! Nuff said!

Gig gorau
Yr uchod.

Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
'Da ni i gyd i mewn i'r un math o bethau. Pavement, Pixies, Teenage Fanclub, Velvet Underground, Byrds, Bowie, Neil Young, Ffa Coffi ayb.

Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Mi fydd rhywun yn meddwl am ryw syniad am felodi neu riff ac mi fyddwn ni'n ei chymryd hi o fan'na.

Be ydych chi'n ei wneud ar ôl gig?
Gwylio'r bandiau eraill a chwilio am barti!

Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
'Dwi'm yn licio rhannu fy cornflakes! Neshi roi halen yn lle siwgr ar fy nghornflakes unwaith a dwi'm 'di gallu eu stumogi nhw ers hynny! Os fyswn i'n foi sy'n hoffi rhannu a 'sa gen i Weetabix neu rywbath, mi fyswn i'n mynd am rywun fel Kim Deal (basydd y Pixies). Mi fysa hi'n gallu canu caneuon Pixies i fi ar ôl i ni orffen ein Weetabix!

Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Do, yn bendant. Yn enwedig y bandiau sydd wedi dod o'r ardal dros y blynyddoedd - bandiau fel Ffa Coffi, y Cyrff ayb.

Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Llew, yn amlwg.

O lle ddaeth yr enw?
O'r camper van thingy! Ro'n i'n styc y tu ôl i un ar y ffordd i 'Steddfod Llanelli cwpwl o flynyddoedd yn ôl ac roeddwn i'n trïo meddwl am enw i'r band ar y pryd! Gwych o stori!

Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Gitâr, dryms, bâs.

Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Sbâr yn Gerlan! Efo Barry Shop fatha MC!

Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Ateb y cwestiwn diwethaf am be dwi'n ei wneud yr eiliad hon!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý