Lluniau o'r noson."Gyda hyrwyddo tenau ar y naw a dweud y lleiaf, daeth y dyddiad i ymgynnull ym Mharc Glasfryn, Y Ffôr, ger Pwllheli ar gyfer gornest 2004 i ennill lle yn ngŵyl Wakestock ddiwedd Gorffennaf.
"Hwn oedd yr ail gystadleuaeth i'r bandiau lleol lwcus gael cystadlu am y fraint eithriadol o rannu'r un llwyfan a rhai o fawrion dyfn, dwys a diddorol y byd cerddorol - Kosheen, Reef, Wheatus i roi blas o'r athrylith sydd i'w glywed, ac wedi ei glywed, ym Mhenyberth. One Planet, One Music fel dywed MTV.
"Yn ôl y sôn roedd Kentucky AFC yn arwain y noson ar yr amod nad oeddan nhw'n rhan o'r gystadleuaeth i sicrhau nad oeddynt yn diddanu'r dorf fis Gorffennaf. Twt twt - y bandiau 'ma a'u hygrededd plentynaidd. Y band arall nad oedd yn rhan o'r gystadleuaeth oedd Bootnic, enillwyr 2003 oherwydd y system bleidleisio erchyll sy'n parhau eto flwyddyn yma. Ar y noson orlawn yn Abersoch flwyddyn yn ôl, Nar gafodd y mwyaf o bleidleisiau yn hawdd, ond oherwydd fod pythefnos o fotio ar y we ar gael ar ôl y gystadleuaeth, llwyddodd Bootnic i neidio o drydydd i gyntaf erbyn y cyfrif olaf. Cewch fotio hynny o weithiau a fedrwch chi, ffans.
"Roedd Winabago, fel arfer, yn ddechrau hynod ddymunol i'r noson - band tynn a phleserus yn llawn tiwns melodaidd hamddenol gyda sŵn llawn ar ben hynny. Maen nhw wirioneddol yn meddu ar naws â sŵn unigryw, ac anghofiwch am y cymariaethau â'r Pixies - un neu ddau o riffs yn debyg, dyna'i gyd. A buan iawn llenwodd y dent i'r awyrgylch esmwyth llawen.
"Mae Lantern yn gerddorion talentog - wal o sŵn effeithiol, gyda chân gyntaf eithriadol o egnïol, newydd, yn llawn dychymyg. Roedd hi rywsut yn anochel fod y band wedyn yn disgyn i fewn i'r teip o thrash metal sydd yn union 'run fath â channoedd o fandiau newydd eraill. Medrid rhoi'r un feirniadaeth i Katch, ond fod eu math hwy o nu-metal hyd yn oed yn fwy arferol a diflas. Mae'r sŵn yn llawn, yn bwerus, ond does dim dychymyg o gwbl i'r set na phatrwm y cordiau, gan arwain at brofiad hollol ailadroddus yn union fel y llu o fandiau diweddar sy'n frith yn y siartiau Saesneg. Ffug-rebeliaeth a ffug-wylltineb efo dim byd wedi eu gwylltio. Mae'n hawdd gweld trwy'r act.
"Yn wahanol i Eryr. Nid ydynt wedi disgyn i'r copïo amlwg yma - mae eu dylanwadau'n ymddangos yn eang a'u naws yn drwm, ond yn drwm gyda chyfeiriad a dychymyg. Ac mae ganddyn nhw broblem go iawn hefo stâd pethau, nid gweiddi gwaed am nad ydi eu cariad wedi eu ffonio neithiwr. Themâu o ormes, imperialaeth a gwrthryfel, twyll y bobl - o bosib nid yn union yr hyn mae trefnwyr Wakestock yn ei ystyried yn ddelfrydol ar gyfer eu gŵyl, ac roedd Eryr yn ymddwyn fel petaent yn ceisio gwthio hynny i'r eithaf.
"Debyg y byddai'r syrffars yn stopio hedbangio wrth glywed y lein 'IRA FWA lleiafrif gyda'r galon' a'r 'Uniaith Unllais' gwych, a doedd agwedd Eryr yn sicr ddim yn un o undod a chydymffurfiaeth - nid yn unig gyda'r elfennau hapi-clapi o'r dorf fydd yn rhan o Wakestock ond efo'u gilydd ar y llwyfan hefyd - pob math o regfeydd godidog i'w clywed. Roedd rhywun yn cael yr argraff nad oeddent yn rhy boenus am biso ar eu sglodion gyda'r trefnwyr a cholli'r cyfle - er, y fots sy'n cyfri yn ôl y rheolau.
"Yn anffodus fe gollodd Bootnic ddiddordeb y dorf, oedd wedi lleihau p'run bynnag wrth i lond tri bws o ffans Katch a Lantern ddenig gyda'u bandiau - ond hawdd gweld pam eu bod wedi cael gwadd yn ôl gan drefnwyr yr ŵyl.
"A be fedar rywun ei ddweud am Kentucky AFC, ond eu bod unwaith eto yn aruthrol, yn gorffen eu set cyfarwydd bellach gydag Unarddeg ac Outlaw. Arbennig, ac yn gorffen y noson amrywiol a diddorol yn y steil gorau posib."
Hefin Jones
Llongyfarchiadau i'r hogiau lleol, Eryr. Wedi pleidleisio tynn iawn, nhw ydy enillwyr cystadleuaeth Rock Band Roc eleni - dim ond pum pleidlais oedd ynddi yn ôl y trefnwyr! Yn ogystal â slot ar lwyfan gŵyl Wakestock ar nos Sadwrn, 24 Gorffennaf bydd Eryr yn cael lluniau a chyfweliad yn rhifyn Mehefin y cylchgrawn Tacsi.